Mae Pennod Tri yn ymchwilio i dirwedd gyflawn y fyddin Rufeinig ger atomfa Trawsfynydd, yn astudio cliwiau i hanes cymdeithasol Cymru mewn capel gwych yn Llanelli, ac yn olrhain campweithiau pen-seiri Cymru Oes y Tuduriaid.
Gallwch chi weld y bennod ar wefan y BBC
Mae Toby Driver, ymchwilydd-o’r-awyr y Comisiwn Brenhinol, yn cyfarfod â Dr Jeff Davies o Brifysgol Aberystwyth i drafod rhai darganfyddiadau diweddar yn nhirwedd filwrol Rufeinig Tomen-y-mur ger Trawsfynydd.
Mae Tomen-y-mur, ger Trawsfynydd, yn dirwedd filwrol eithriadol o gyfnod y Rhufeiniaid lle mae tynnu awyrluniau wedi datgelu nifer fawr o nodweddion. Wrth galon y safle mae’r gaer atodol Rufeinig a safai ar safle amlwg ar y ffordd o’r Brithdir ger Dolgellau i Segontium yng Nghaernarfon. Mae’n debyg iddi gael ei sefydlu tuag OC 70 a rhoddwyd y gorau i’w defnyddio erbyn tuag OC 130. Gall y dirwedd, felly, gynnig cipolwg ar hanner canrif o weithgarwch dwys. Mae’n cynnwys cynllun hirsgwar y gaer (A), y llinell amddiffyn a godwyd i gwtogi ar faint y gaer, a thomen a godwyd gan y Normaniaid fil o flynyddoedd yn ddiweddarach (B). Gellir gweld adeilad y pencadlys (C) a blociau’r barics. Mae’r nodweddion milwrol clasurol eraill yn cynnwys maes parêd (E), gwersylloedd ymarfer (J), amffitheatr (D), baddondy (G), estyniad (K), ffrydiau cyflenwi dŵr (I) ac ategion pont (H). Efallai mai nodwedd ddaearegol, yn wreiddiol, oedd y llwyfan isel (F) y byddai’r swyddogion yn sefyll arno i oruchwylio’r milwyr ar y maes parêd.
Chwiliwch am Domen-y-mur ar Coflein
Chwiliwch am safleoedd Rhufeinig eraill ar Coflein
Ymwelwch Thomen-y-mur
Mae Pennaeth Arolygu ac Ymchwilio y Comisiwn Brenhinol, Stephen Hughes, yn cyfarfod â Huw Edwards yng Nghapel Als yn Llanelli i drafod yr hanes cymdeithasol a gynrychiolir gan y capel gwych hwn.
Wrth gyfrif ar gyfer ei arolwg cenedlaethol o gapeli , daeth y Comisiwn Brenhinol i’r casgliad bod cyfanswm o ryw 7,000 o gapeli wedi bodoli yng Nghymru. Adeg cyfrifiad crefyddol 1851, yr oedd 80 y cant o’r bobl yn anghydffurfwyr, ac erbyn 1905 yr oedd yma 4,280 o gapeli. Ailgodwyd llawer ohonynt sawl tro. Dechreuwyd codi Capel Als yn Llanelli ym 1780 ac fe’i helaethwyd ddwywaith yn ystod yr hanner can mlynedd wedi hynny. Yna fe’i hailgodwyd gan ddilyn cynlluniau Thomas Thomas ym 1852-3 ac eto ym 1894-5. Eglwys i’r dosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith oedd Capel Als. Yr oedd ei gweinidogion yn ffigurau gwleidyddol yn ogystal â chrefyddol – rhai fel David Rees a oedd yn ddiwygiwr cymdeithasol, yn ymgyrchydd gwleidyddol ac yn bropagandydd. O dan ei arweiniad, tyfodd Capel Als yn un o gapeli cryfaf Cymru. Helaethwyd a gwellwyd llawer ar yr adeiladau ym 1894-5 yn ystod gweinidogaeth Dr Thomas Johns, a hynny gan Owen Morris Roberts, y pensaer capeli nodedig a weithiai ym Mhorthmadog. Gyda’i gilydd, golygai safon y gwaith saer, y gwaith plastr ar y nenfwd, y teils a’r gwydr lliw mai Capel Als oedd un o gapeli gwychaf Cymru. Bydd yn atgoffa to ar ôl to o drigolion Llanelli o gamp gweithwyr cyffredin eu tref gynt, yn ddynion a menywod.
Chwiliwch am Gapel Als ar Coflein
Chwiliwch am gapeli eraill ar Coflein
Take a tour of chapels in Aberystwyth
Mae ymchwilydd o’r Comisiwn Brenhinol, Richard Suggett, yn taflu goleuni ar waith pen-seiri anghofiedig Cymru yn Old Impton ger Llanandras.
Mae Old Impton yn Sir Faesyfed yn dangos y newid a fu tua diwedd yr Oesoedd Canol a dechrau’r Gymru fodern gynnar o adeiladu mewn cerrig i adeiladu mewn pren. Er bod y gwaith pren ynddo o’r safon uchaf, nid yw enw’r pencampwr o saer yn hysbys. Yr oedd crefft y saer mewn tŷ ac eglwys o bwys mawr ac yr oedd y seiri lawn mor enwog yn eu dydd â’r beirdd a’r cerddorion gorau. Mae dyddio blwyddgylchau’r pren yn Old Impton yn dangos iddo gael ei godi mewn dau gam yn unig, er mor gymhleth yw ei ffurf. Codwyd y tŷ neuadd o gerrig ym 1471 a chodwyd ychwanegiadau soffistigedig ato ym 1542. Drwy ymchwilio mewn dogfennau, ceir gwybod am yr hyn a oedd yn digwydd ar y ddau ddyddiad hynny. Ym 1471 cododd derbynnydd arglwyddiaeth Maelienydd neuadd o gerrig yma. Ddwy genhedlaeth yn ddiweddarach, priododd ei ŵyr, Thomas ap Watkin, â merch marchog o Swydd Amwythig, Syr John Bradshaw. Mae’n debyg mai canlyniad i’r briodas fanteisiol honno oedd yr ailgodi ym 1542. Mae dau lawr i’r cyntedd a godwyd bryd hynny ac mae’r uchaf o’r ddau lawr yn ymwthio allan yn ôl ffasiwn gorau oes y Tuduriaid. Mae distiau’r nenfwd yn ffurfio dôm isel, a phroses ddrud oedd eu mowldio. Cerfiwyd deiliach a sgwariau a chylchoedd rhyngblethol ar gapan y drws ac ar y bracedi sy’n cynnal y llawr ymwthiol uwch ei ben, ac mae’r saer wedi darlunio’r holl offer yr oedd eu hangen i godi’r tŷ - o fwyell torri coed i lif a tharadr - llun sy’n cyfleu yn fyw iawn falchder y saer yn ei grefft.
Chwiliwch am Old Impton ar Coflein
Chwiliwch am dai eraill Coflein
Darllenwch ragor am dai Sir Faesyfed