Treftadaeth Cymru

Pennod Pedwar

Mae Pennod Pedwar yn dilyn gwaith arolygu a wnaed i ddatgelu archaeoleg gyfoethog uwchdiroedd Cymru, yn astudio fferm fodel a godwyd gan filiwnydd yn ystod Oes Fictoria, ac yn datguddio muriau addurnedig mewn tŷ o’r unfed ganrif ar bymtheg.

Gallwch chi weld y bennod ar wefan y BBC.

Penblaenmilo

  • The remains of the farmstead at Penblaenmilo. NPRN 81460  image courtesy of Trysor
  • Filming at the pillow mounds. (Image courtesy of Trysor NPRN:81460)

Mae Jenny Hall a Paul Sambrook yn chwilio am safleoedd coll yn Aberedw ger Llanfair-ym-Muallt ar gyfer menter gan y Comisiwn Brenhinol, Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd, ac yn cyfarfod â’r ffarmwr Ray Powell i drafod yr olion y mae’r cenedlaethau a fu wedi’u gadael ar y bryniau.

Adnodd archaeolegol anhygoel o gyfoethog yw uwchdiroedd Cymru ac mae fferm anghyfannedd Penblaenmilo’n un o lu sydd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled tirwedd cefn gwlad. Adeg cyfrifiad 1841 y gwelwyd poblogaeth llawer o blwyfi gwledig ar ei hanterth. Bryd hynny, cofnodwyd bod 345 o bobl yn byw ym mhlwyf Aberedw, a bron pob un ohonynt yn ennill bywoliaeth o’r tir, ond gan i’r trefi a’r ardaloedd diwydiannol ddenu pobl o gefn gwlad, nid oedd Penblaenmilo, erbyn y 1880au, ond yn un o filoedd o ffermydd a bythynnod anghyfannedd yr uwchdiroedd. Erbyn cyfrifiad 1891 nid oedd ond 197 o bobl yn byw yn y plwyf. Gellir dal i weld olion lle tân a drws ffrynt Penblaenmilo ymhlith yr adfeilion. Gerllaw, ceir rhai o nodweddion eraill tirwedd y bu ffermwyr yn gweithio arni gynt, fel llociau bach a grëwyd o’r tir comin, tystiolaeth o droi’r tir hyd at 400 metr uwchlaw lefel y môr, a grŵp o domenni clustog a ddefnyddid gan genedlaethau cynharach i ffermio cwningod am eu cig a’u ffwr. Yr oedd ffermydd eraill yma ac acw ar draws y bryn ac yn un ohonynt cafwyd hyd i odyn fach i sychu grawn. Mae menter y Comisiwn Brenhinol, Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd , wedi cofnodi bodolaeth bythynnod a ffermydd anghyfannedd tebyg ledled uwchdiroedd Cymru ac yn amlach na pheidio mae’r adfeilion wedi’u gadael fel yr oeddent. Ar y tir is, beth ffordd o’r tir comin, mae eu holion bron bob amser wedi diflannu wrth i’r tir gael ei wella ac i ddulliau dwysach o amaethu gael eu defnyddio. Mae’r arolwg o’r uwchdiroedd yn datgelu llawer iawn o dystiolaeth newydd  am hanes Cymru.

Chwiliwch am Benblaenmilo ar Coflein

Ymchwiliwch i’r uwchdiroedd ar Coflein

Leighton Park Farm

  • Leighton Park Farm from the air. (Image:GTJ26388 / NPRN 80542)
  • The corn mill built on the Leighton Estate, Cil-Cewydd. (Image:DI2008_0127/NPRN: 80538 )
  • The Leighton poultry house. (Image:DI2008_0847/ NPRN 85876)

Mae ymchwilwyr o’r Comisiwn Brenhinol, Stephen Hughes a Susan Fielding, yn arolygu’r technolegau a’r adeiladau ffermio a ddatblygwyd gan filiwnydd ar fferm fodel Leighton Park ger y Trallwng yn ystod Oes Fictoria.

Anaml y cysylltir technolegau diwydiannol newydd Oes Fictoria ag amaethyddiaeth, ond cafodd y gwelliannau a ddatblygwyd yn y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg eu dwyn ynghyd yn ystod Oes Fictoria i geisio troi ffermio’n broses ddiwydiannol. Cafodd John Naylor stad Leighton Park yn rhodd gan ei ewythr adeg ei briodas. Rhwng 1848 a 1856 gwariodd £200,000 ar ddatblygu’r stad. Y bwriad oedd i’r brif fferm wneud argraff. Y cnewyllyn oedd yr iard stoc ar y pen uchaf, a godwyd ym 1849, a dilynwyd honno’n fuan wedyn gan dair iard arall. Ychwanegwyd dau adeilad crwn i foch a defaid erbyn 1855. Erbyn diwedd y degawd, cawsai’r sied borthiant ar wahân ei chodi a gosodwyd llwybr tramiau i gludo gwair a gwellt ar hyd yr echel a ffurfiwyd gan yr ysguboriau. Ymhlith yr adeiladau newydd eraill a godwyd yma ac acw ar y stad yr oedd y rhai lle cedwid llysiau gwraidd i gynhyrchu bwyd anifeiliaid, melin malu esgyrn, melin lifio, gweithdy peirianyddol, gwaith nwy, melin flawd, gwell llety i’r gweithlu mawr, a chwt ieir trawiadol ei bensaernïaeth. Ymhlith y datblygiadau arloesol yr oedd tyrbinau dŵr i ddarparu pŵer, a system gymhleth o ddarparu gwrtaith i ffrwythloni’r caeau.

Chwiliwch am Fferm Leighton Park ar Coflein

Chwiliwch am bob cofnod ar Coflein sy’n gysylltiedig â Leighton Park/ Tre'r-llai

Ciliau

  • Ciliau’s painted ‘tapestries’. (Image:DS2007_024_023/NPRN: 81106)
  • Ciliau’s painted ‘tapestries’. (Image: DS2007_024_017/ NPRN 81106)
  • The Royal Commission’s reconstruction of Ciliau as an open hall. (Image: DI2005_0051/ NPRN 81106 )

Mae’r ymchwilydd Richard Suggett yn astudio’r peintiadau sydd newydd ddod i’r golwg yn y Ciliau, peintiadau sy’n dangos sut y byddai bonheddwr yn Oes y Tuduriaid yn addurno’i gartref gwledig i wneud argraff ar bobl.

Mae’r Ciliau’n dŷ bonheddig rhyfeddol a godwyd tua chanol Oes y Tuduriaid ger Erwd ym Mhowys. Nid oedd gan dai yn y cyfnod modern cynnar  fawr o gelfi yn eu neuaddau agored heblaw bwrdd a meinciau, a bydd unrhyw gynllun addurnol fel rheol wedi’i golli am byth. Ar ôl i’r Comisiwn gwblhau ei arolwg cychwynnol o’r Ciliau fel rhan o’i astudiaeth fawr o dai Sir Faesyfed , darganfu’r perchennog fod y plastr dros y sgrin ym mhen y neuadd yn cuddio peintiadau helaeth. Mae’r rhan uchaf yn dangos dail troed yr arth, a thros gefndir du’r panel islaw ceir llifeiriant o ddail a blodau egsotig. Hwnt ac yma yn y deiliach gwelir sawl creadur. Daeth hi’n amlwg ar ôl glanhau’r panel fod yno aderyn wyneb yn wyneb â chath, a dyma’r darlun cynharaf sydd wedi goroesi yng Nghymru o’r anifail anwes cyffredin hwn. Mewn man arall ceir aderyn arall a chi â choler. Chwaeth aristocrataidd oedd tapestrïau, ond prin oedd y rhai a oroesai am amser maith. Cam mwy ymarferol oedd eu peintio’n syth ar y muriau a’r paredau. Efallai i’r efelychiadau peintiedig hyn o dapestrïau orchuddio tri, os nad pedwar, o furiau neuadd y Ciliau. Rhaid eu bod yn dyddio o’r cyfnod cyn i nenfwd gael ei godi drwy’r neuadd agored yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ym 1574 etifeddwyd y Ciliau gan John ap Robert. Bum mlynedd yn ddiweddarach, fe’i gwerthodd i’r bonheddwr Edward Daunce o Henffordd ac ef, mae’n debyg, a ailaddurnodd y tŷ yn y dull ffasiynol hwn.

Chwiliwch am y Ciliau ar Coflein