Treftadaeth Cymru

Byw

Mae’r erthygl hon yn cyflwyno hanes anheddu yng Nghymru a’r mathau o gartrefi y mae pobl wedi byw ynddynt o gyfnod chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at heddiw. Mae gan y Comisiwn Brenhinol hanes maith o ymchwilio a chyhoeddi yn y maes hwn gan iddo gyhoeddi cyfrolau fel ‘Houses of the Welsh Countryside’ a’r gyfrol ddiweddar Houses and History in the March of Wales. Radnorshire 1400 – 1800[RCW5-1-3]. Mae manylion miloedd o safleoedd anheddu ac o adeiladau hefyd i’w gweld ar Coflein neu yng Nghofnod Cenedlaethol Henebion Cymru.


Yr Anheddwyr Cynharaf: Anheddu yn ystod y cyfnodau Palaeolithig a Mesolithig

  • Yn ystod y cyfnod Mesolithig fe gododd lefel y môr gan foddi’r tir a arferai gysylltu Cymru â’r Cyfandir ac Iwerddon.  Erbyn rhyw 7,000 o flynyddoedd yn ôl, yr oedd arfordir Cymru fwy neu lai fel y mae ef heddiw. (Llun: DI2006_0962 / NPRN: 305297)
  • Waun Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog: mae gwaith maes ar nodweddion erydu yn y mawn, ynghyd â samplu helaeth ar yr amgylchedd, wedi esgor ar dystiolaeth o weithgarwch Mesolithig. (Llun: DI2006_0769 / NPRN: 401580)
  • Nab Head, Bae Sain Ffred, Sir Benfro: cafwyd hyd i ddefnydd Mesolithig wrth gloddio ar y pentir hwn. (Llun: DI2006_0613 / NPRN: 308819)

Yn ystod y Cyfnod Palaeolithig, sef rhwng 225,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl, y daeth yr anheddwyr cynharaf i Gymru. Yr oedd yr adeg honno’n un o’r cyfnodau cynnes yn ystod Oes yr Iâ ac yr oedd lefel y môr yn is o lawer a Phrydain, y Cyfandir ac Iwerddon yn un tir mawr. Yr oedd y boblogaeth yn wasgaredig iawn ac yn symud cryn lawer o le i le am eu bod yn byw drwy hela a chasglu. Mae’n debyg nad oedd ganddynt gartrefi parhaol, ond gan eu bod yn byw mewn llochesau dros dro neu mewn pebyll o bren a chrwyn, anaml y ceir hyd i weddillion y rheiny. Ceir tystiolaeth gryfach o’u defnydd o ogofâu, a’r dystiolaeth gynharaf yw honno ym Mhontnewydd yn Sir Ddinbych lle mae arteffactau fel llawfwyeill ac offer bwtsiera eraill yn cynrychioli gweithgarwch pobl Neanderthalaidd gynnar ryw 225,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ar ôl i’r rhewlifoedd gilio ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl, cododd lefel y môr gan orlifo’r tiroedd isel a throi Prydain yn ynys. Erbyn rhyw 7,000 o flynyddoedd yn ôl, yr oedd arfordir Cymru fwy neu lai fel y mae ef heddiw. Gan i’r hinsawdd gynhesu ac i lystyfiant dyfu yn sgil hynny, gallai’r helwyr-gasglwyr Mesolithig fanteisio ar adnoddau’r tir a’r môr. Mae’n fwy na thebyg iddynt godi aneddiadau ar hyd yr arfordir ac yng nghymoedd a dyffrynnoedd yr afonydd, ond ceir tystiolaeth i bobl Fesolithig ddiweddarach ecsbloetio’r uwchdir, fel y gwelir yn Waun Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog. Ond fel yn achos y cyfnod Palaeolithig, mae’r ffaith fod y bobl Fesolithig wedi teithio cymaint o le i le yn golygu mai prin yw’r safleoedd anheddu sy’n hysbys yng Nghymru, ac nid oes unrhyw enghraifft sicr o dai. Er hynny, mae gwaith cloddio wedi dod o hyd i ‘safleoedd cyflawni tasgau’, fel y rhai ar gyfer prosesu bwyd neu wneud offer, fel safle Nab Head ym Mae Sain Ffred yn Sir Benfro.


Y Tai Cyntaf: Anheddu yn ystod y Cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar

Yn ystod y Cyfnod Neolithig (4500-2500 CC) y ceir y dystiolaeth bendant gyntaf o dai yn y cofnod archaeolegol, a hynny am i bobl ddechrau ffermio a byw mwy a mwy mewn un man. Mae hynny’n awgrymu bod pobl yn byw mewn ffermydd unig lle nad oedd y tir wedi’i amgáu, a’u bod yn byw yno, yn fwy na thebyg, fel rhan o deulu estynedig. Yn Llandygái ger Bangor y cloddiwyd un o’r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi o dŷ Neolithig. Yno, mae cyfres o dyllau pyst yn amlinellu’r hyn a fyddai wedi bod yn adeilad petryal o bren, a hwnnw’n 6 metr o led wrth 13 metr o hyd ac wedi’i rannu’n dair ystafell. O astudio adeiladweithiau tebyg ledled Ewrop, mae’n debyg y byddai lle tân ar ganol y stafell ganol fawr a bod y mwg yn dianc trwy do a oedd, yn fwy na thebyg, yn un o wellt neu gyrs.

Wrth i bobl ffermio fwy a mwy ac i lefel y boblogaeth godi yn ystod y Cyfnod Neolithig Diweddar a’r Oes Efydd Gynnar (3000-1500CC), dechreuwyd ehangu i’r tiroedd na chawsent eu hecsbloetio cynt, fel yr uwchdiroedd. Wrth i bobl ddal i fyw mewn ffermydd lle nad oedd y tir wedi’i amgáu, codwyd mwy a mwy o dai ar ffurf cylch; fe’u gelwir yn dai crwn neu’n gylchoedd cytiau. P’un a gaent eu codi o gerrig neu bren, dyma oedd y ffurf fwyaf cyffredin ar dai drwy gydol gweddill y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r tai crwn a adluniwyd yng Nghastell Henllys ger Crymych yn Sir Benfro yn rhoi syniad clir o’r olwg a fyddai wedi bod ar yr adeiladweithiau hynny ac maent wedi’u codi ar sylfeini gwreiddiol y tai yn y fryngaer o’r Oes Haearn. Un o’r enghreifftiau sydd wedi’u dogfennu ac wedi’u dyddio orau o ran anheddiad domestig o’r Oes Efydd Cynnar yw’r anheddiad yng Nghwningar Stackpole ar arfordir de Penfro. Yma, câi’r tai crwn eu codi o bren. Mae’r enghraifft orau ohonynt yn rhyw 4 metr o ddiametr ac mae iddi gyntedd sy’n 1.6 metr o hyd a lle tân canolog.

  • Un o’r tai crwn sydd wedi’u hadlunio yng Nghastell Henllys, Sir Benfro.  Yr oedd y tai crwn o bren yn cynnwys ffrâm a gawsai ei ffurfio o byst unionsyth a gysylltwyd â’i gilydd â thrawstiau pren.  Câi’r waliau eu gwneud o rodiau rhyngblethedig o bren cyll neu ryw fath hyblyg arall o bren, a haenau o fwd (dwb) drostynt.  Ffurf gonaidd oedd i’r toeon a chaent eu codi â pholion crwn a’u toi â gwellt neu gyrs. (Llun: DS2005_017_038 / NPRN: 94989)
  • Tu mewn un o’r tai crwn a adluniwyd yng Nghastell Henllys, Sir Benfro. (Llun: DS2005_017_035 / NPRN: 94989)
  • Tân canolog (aelwyd) un o’r tai crwn a adluniwyd yng Nghastell Henllys, Sir Benfro. (Llun: DS2005_017_030 / NPRN: 94989)

Y Cartref Amddiffynedig: Anheddu yn yr Oes Efydd Ddiweddar a’r Oes Haearn

Ledled Cymru, mae modd gweld ac ymweld ag amryw o aneddiadau sydd wedi goroesi ers yr Oes Efydd Ddiweddar a’r Oes Haearn (1100CC-OC50). Erbyn hynny, cawsai’r mwyafrif o aneddiadau eu hamgáu ac, mewn llawer achos, eu hamddiffyn yn gadarn. Y canolbwynt, bellach, oedd byw mewn ‘grŵp’. Mae hyn i gyd yn awgrymu bod y gymdeithas yn fwy pryderus am fod pobl yn dechrau ofni ymosodiadau a bod angen iddynt, felly, ddod at ei gilydd yn grwpiau cyfeillgar. Efallai mai un o’r prif ffactorau oedd dirywiad yr hinsawdd yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Byddai’r ffaith ei bod yn fwy glawog a bod yr hinsawdd yn oeri wedi’i gwneud hi’n fwy anodd i’r boblogaeth gymharol fawr ei bwydo’i hun. Mae llociau amddiffynedig fel bryngaerau a chaerau pentir yn arwydd o’r pryder newydd hwnnw a hwy yw’r ffurfiau fwyaf pendant a thrawiadol ar anheddu yn y cyfnod hwn. Mae rhyw fil ohonynt yn hysbys yng Nghymru. Fel rheol, caent eu codi ar safleoedd cryf lle’r oedd natur y tir yn helpu i’w hamddiffyn. Y duedd yn achos y ffurfiau cynharaf oedd eu codi ag un llinell amddiffynnol, sef palisâd neu ffens gadarn (lloc unglawdd). Mewn cyfnodau diweddarach ceid nifer o linellau o amddiffynfeydd ac allfuriau (lloc amlglawdd) a oedd yn cynnwys cloddiau a ffosydd, a’r rheiny’n aml wedi’u troi’n wrthgloddiau ac â waliau cerrig ar eu brig. Yn aml, ceir tystiolaeth yn y bryngaerau o dai crwn o gerrig neu bren ynghyd ag adeiladweithiau petryal a allai fod wedi’u codi ar byst uwchlaw’r ddaear i storio grawn a chynhyrchion amaethyddol eraill ynddynt.

  • Bryngaer Tre’r-ceiri yn Sir Gaernarfon.  Fe’i codwyd yn ystod yr Oes Haearn ac mae’n un o’r caerau cerrig sydd wedi’u diogelu orau ym Mhrydain.  Mae’r tai crwn o gerrig y tu mewn iddi yn ddigon amlwg.(Llun: CD2003_603_021 / NPRN: 95292)
  • Y gaer bentir amlglawdd o’r Oes Haearn, a elwir yn Deborah’s Hole Camp ar The Knave ym Mhenrhyn Gwyr. (Llun: GTJ25169 / NPRN: 301326)
  • Ysgubor a adluniwyd yng Nghastell Henllys, Sir Benfro. (Llun: DS2006_086_007 / NPRN: 94989)

Er bod llociau amddiffynedig mawr o’r fath yn eu cysgodi, trigai’r mwyafrif o’r bobl yn ystod y cyfnod hwn mewn ffermydd diamddiffyn lle nad oedd fawr o amgáu wedi bod ar y tir. Yr oedd ffermio’n fwy trefnus erbyn hyn a châi grwpiau o dai crwn, a elwir yn gylchoedd cytiau, eu gosod weithiau o fewn cyfundrefnau caeau diffiniedig. Gan mai ar y tiroedd isel yr oedd y mwyafrif ohonynt, cafodd y mwyafrif o’r aneddiadau hynny eu dinistrio gan weithgarwch diweddarach, megis troi’r tir, ond mae llawer ohonynt wedi dod i’r golwg ar ffurf olion cnwd neu olion pridd yn sgil rhaglen y Comisiwn Brenhinol o arolygu o’r awyr.

  • Bryngaer y Bwlwarcau ger Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae’r gyfres gymhleth hon o wrthgloddiau’n ffurfio lloc ar ffurf ‘D’ yn fras.  O dano, mae lloc petryal sy’n cynnwys dau lwyfan ty a’r gred yw iddynt gael eu codi yn yr Oesoedd Canol. (Llun: CD2003_603_014 / NPRN: 301303)
  • Lloc ôl Cnwd Llan-y-nant ger Tyndyrn. (Llun: DI2005_0497 / NPRN: 301120)
  • Lloc ôl cnwd Blaen-pant yng Ngheredigion. (Llun: DI2005_0121 / NPRN: 309030)

Y Trefi Cyntaf: Anheddu yn ystod y Cyfnod Rhufeinig

Ysgogodd dyfodiad y Rhufeiniaid i Gymru yn y ganrif gyntaf OC newidiadau dirfawr yn y mathau o anheddiad, a phatrymau’r anheddu, mewn rhai ardaloedd. Wrth iddynt ymgyrchu, câi’r byddinoedd lety mewn ‘gwersylloedd cyrch’ dros dro, fel gwersyll Esgair Perfedd ger Rhaeadr Gwy. Gwersylloedd petryal oedd y rheiny gan amlaf, ac i’w hamddiffyn yr oedd ffos â banc o bridd a phalisâd o bren ar ben hwnnw. Byddai’r milwyr wedi gwersylla dan gynfas y tu mewn i’r gwersyll.

  • Gwersyll dros do Esgair Perfedd ger Rhaeadr Gwy. (Llun: DI2005_0308 / NPRN: 261456)
  • Caer Atodol Segontiwm (Caernarfon).  Mae rhai o adeiladweithiau mewnol y gaer i’w gweld yn glir.  Adeilad y pencadlys a thy’r cadlywydd yw’r adeiladweithiau cyntaf i’r dde o’r ffordd, a’r tu hwnt iddynt mae blociau’r barics. (Llun: AP_2005_0707 / NPRN: 93511)
  • Caer atodol yw’r Gaer ger Aberhonddu.  Wrth gloddio, cafwyd hyd i ‘mansio’ (gwesty i deithwyr) a baddondy y tu allan i’w phorth gogleddol. (Llun: GTJ00060 / NPRN: 92001)

Ar ôl i’r milwyr dawelu ardal, caent eu lletya mewn caerau atodol fel y rhai yn Segontium (Caernarfon) neu’r Gaer ger Aberhonddu. Amrywiai maint y gaer yn ôl y math o gatrawd, ac oddi yno gallai’r milwyr gadw golwg ar y boblogaeth a wastrodwyd a chasglu tollau o wahanol fathau. Pencadlysoedd y llengoedd a oedd yn gyfrifol am gadw’r ‘Heddwch Rhufeinig’ yng Nghymru oedd lleng-gaerau mawr Deva (Caer) yn y gogledd ac Isca (Caerllion) yn y de. Tebyg iawn i’w gilydd yw cynllun y mwyafrif o gaerau’r Rhufeiniaid. Caent eu codi’n bennaf o bren, ond yn aml yr oedd i’r caerau sefydledig amddiffynfeydd ac adeiladau o gerrig. Petryal oedd siâp y mwyafrif o’r caerau, ac yr oedd iddynt un neu ragor o ffosydd ynghyd â banc o bridd ac arno balisâd o bren neu wal gerrig o’i flaen. Arweiniai pedwar porth, un ym mhob ochr, i du mewn y gaer ac yno y cewch chi brif adeiladau’r gaer – fel blociau’r barics i’r milwyr, tŷ’r cadlywydd (praetorium), adeilad y pencadlys (principia), ynghyd ag ysguboriau (horrea) a gweithdai (fabrica).

  • Lleng-gaer Fawr a Canabae Isca (Caerllion).  Yr oedd y canabae (anheddiad allanol) lle mae’r meysydd chwarae yn awr ac yr oeddent yn cynnwys amffitheatr, fel y gwelir ar ochr chwith y ffotograff, ynghyd â baddondy, maes parêd a thai i wahanol drigolion. (Llun: DI2005_0475 / NPRN: 95647)
  • Amffitheatr Isca (Caerllion). (Llun:  CD2003_603_049 / NPRN: 95659)
  • Prifddinas Civitas Rhufeinig Venta Silurum (Caer-went).  Mae muriau’r dref ymhlith y rhai sydd wedi’u diogelu orau ym Mhrydain, ac mae’r gwaith cloddio wedi dod o hyd i’r siopau, y deml a’r fforwm-basilica. (Llun: GTJ00226 / NPRN: 93753)

Yr oedd hi’n anochel y byddai’r canolfannau milwrol hyn yn denu pobl i ymgartrefu o’u hamgylch. Ceid yno dai i farsiandwyr, crefftwyr, difyrwyr ac eraill, a hefyd i wragedd answyddogol y milwyr. Os byddai aneddiadau y tu allan i leng-gaer fawr, yr enw arnynt fyddai canabae. Os byddai anheddiad y tu allan i gaer atodol, câi ei alw’n vicus.

Mewn ymdrech i ‘wareiddio’ trigolion y taleithiau a gawsai eu darostwng, a chynnig cartrefi eithaf diogel i uchelwyr y llwythau a oedd wedi derbyn rheolaeth yr ymerodraeth, cafodd trefi a dinasoedd eu hadeiladu i fod yn ganolfannau masnachu a chynhyrchu, yn ogystal ag yn ganolfannau i gasglu trethi ynddynt. Yn y de mwy Rhufeinig yr oedd y ddau anheddiad a ddatblygodd yn brif ganolfannau trefol (civitates) Cymru, sef Venta Silurum a Moridunum, Caer-went a Chaerfyrddin. Yno y byddai uchelwyr llwythau’r Silures a’r Demetae, ar eu newydd wedd, wedi byw, ynghyd â gweinyddwyr, crefftwyr a marsiandwyr eraill. Fel rheol, câi’r tai yn y canolfannau trefol hynny eu codi o gerrig, brics neu deils. Byddai eu siâp petryal yn cynnwys sawl ystafell. Nodweddion arbennig tai mwyaf chwaethus y cyfnod hwn fyddai systemau gwresogi - hypocawstiau - o dan y lloriau, a lloriau mosaig a waliau a oedd wedi’u plastro a’u peintio. Byddai llu o nodweddion clasurol dinasoedd taleithiau gorllewinol y Rhufeiniaid hefyd i’w cael yma, fel yr amrywiaeth o adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys y fforwm (marchnadle â basilica neu neuadd), temlau, baddondai ac amffitheatr.

Yr oedd aneddiadau ymyl-y-ffordd, a elwir yn ‘drefi bach’ gan archaeolegwyr, yn nodwedd gyffredin ar Brydain Rufeinig, ond cânt eu cyfyngu’n bennaf i dde-ddwyrain Cymru, y rhan o’r wlad a oedd wedi ymdoddi’n fwyaf trwyadl i’r ymerodraeth. Enghreifftiau da ohonynt yw Brynbuga, Trefynwy a’r Bont-faen. Nid oedd pob canolfan drefol yn dref gyffredin gan fod rhai ohonynt yn aneddiadau a gawsai eu codi i ecsbloetio mwynau fel aur, copr a phlwm. Prif adnodd Cymru o ran allforion oedd ei mwynau, a dyna un o’r prif resymau dros ei goresgyn. Yn y gogledd a’r canolbarth y mae’r aneddiadau hynny’n bennaf, fel yr un sy’n gysylltiedig â’r mwyngloddiau aur yn Nolaucothi, i’r de o Lanbedr Pont Steffan, neu Pentre Farm ger y Fflint, a oedd yn ganolfan weinyddol leol i’r diwydiant mwyngloddio plwm.

Mae ffurfiau hynod Rufeineiddiedig ar aneddiadau gwledig, fel y fila yng Nghroes Carn Einion yng Nghasnewydd, i’w cael ar y tiroedd bras yn y de a oedd o fewn cyrraedd eithaf hwylus i’r canolfannau trefol. Mewn rhannau eraill o’r wlad, ac yn enwedig ar diroedd yr Ordovices yn y gogledd-orllewin, mae cryn barhad yn yr anheddu gwledig o’r amser cyn y goresgyniad. Bryd hynny, ffermydd gwasgaredig a gawsai eu codi o gerrig oedd yr uned economaidd arferol. Delid i ddefnyddio rhai bryngaerau hefyd, megis Moel Arthur i’r dwyrain o Ddinbych.

  • Mae Fila Croes Carn Einion ger Casnewydd wedi goroesi ar ffurf ôl cnwd ac fe welir yma ei bod hi’n ddau adeilad ar wahân. (Llun: DI2006_0739 / NPRN: 90528)
  • Mae Dinllugwy ym Môn yn enghraifft o anheddiad Rhufeinig diweddar sydd wedi’i ddiogelu’n dda.  Yma, ceir waliau o garreg galch i’r tai crwn, ynghyd â chyfres o adeiladau petryal a gâi eu defnyddio, yn ôl awgrym y gwaith cloddio, i weithio metelau ynddynt. (Llun: CD2003_604_029 / NPRN: 95541)
  • Bryngaer Moel Arthur i’r dwyrain o Ddinbych. (Llun: CD2003_604_017 / NPRN: 306899)

Teyrnasoedd y Cymry a’r Eingl-Sacsoniaid: Anheddu yn yr Oesoedd Canol Cynnar

Gan i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a’r dirywiad yn y canolfannau trefol greu cryn ansefydlogrwydd, fe ymddangosodd amryw o deyrnasoedd ar hyd a lled Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar (OC 500-1100), a chodwyd Clawdd Wat a Chlawdd Offa i ddynodi’r ffin rhwng teyrnasoedd y Cymry, megis Gwynedd, Powys a Dyfed, a Mersia, teyrnas yr Eingl-Sacsoniaid. Gan na fu fawr o newid ar fywydau llawer o’r bobl a oedd yn byw yng nghefn gwlad Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol ymlaen, fe wyddom ni lai am aneddiadau’r bobl gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw nag am aneddiadau unigolion uwch eu statws. Daliai’r bobl i ddefnyddio’r brif ffurf ar anheddu, sef adeiladau crwn mewn lloc bach, fel y gwelir yn achos ffermydd Cefn Graeanog ar Benrhyn Llŷn – ffermydd y daliwyd i’w defnyddio o’r cyfnod Rhufeinig ymlaen.

  • Clawdd Offa. (Llun: GTJ25748 / NPRN: 306886)
  • Adluniad o du mewn ty neuadd.  Fe’i seiliwyd ar Fryndraenog, ty i’r gogledd-orllewin o Geintun.  Ty â ffrâm bren yw hwnnw ac fe’i codwyd yn gynnar yn y bymthegfed ganrif.  Mae’r llun yn dangos y neuadd agored â’r aelwyd ganolog. (Llun: DI2005_0884 / NPRN: 81056)
  • Crannog Llyn Safaddan. (Llun: GTJ25670 / NPRN: 32997)

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a wyddom ni am aneddiadau’r cyfnod yn ymwneud â llysoedd tywysogion ac uchelwyr eraill y Cymry. Dyma’r llys, casgliad o aneddiadau a oedd wedi’u codi o bren fel rheol ac a oedd yn gartref i deulu’r arglwydd ac i weithwyr, milwyr a chrefftwyr a’u teuluoedd. Canolbwynt y llys oedd y tŷ neuadd â ffrâm bren, ac ynddo yr oedd neuadd, parlwr preifat ac ystafell wely i’r perchennog, yn ogystal ag ystafelloedd gwasanaethu. Byddai’r arglwydd a’i ddilynwyr yn cyfarfod a gwledda yn y neuadd, sef gofod mawr a oedd yn agored i’r to. Yno y byddai tân agored, a’r mwg ohono’n dianc drwy’r to. Byddai’r adeiladwaith hwn yn datblygu drwy gydol yr Oesoedd Canol, fel y gwelir yng nghyhoeddiad diweddar y Comisiwn Brenhinol ar Sir Faesyfed.

Fel rheol câi llys ei amddiffyn, ac mewn rhai achosion byddai’n ailddefnyddio aneddiadau cynharach, fel yn achos bryngaer Dinas Powys ym Morgannwg neu gaer Rufeinig Ffordun ger Trefaldwyn. Anheddiad amddiffynedig arall o statws uchel yng Nghymru yw hwnnw ar Lyn Safaddan, lle’r adeiladwyd ynys artiffisial neu grannog. Dyma i chi safle pwysig yn hanes a mytholeg Cymru gan iddo gael ei godi, yn ôl y chwedl, gan Frychan, brenin Brycheiniog, tua diwedd y nawfed ganrif, a’i ddinistrio, yn ôl yr Anglo-Saxon Chronicles, yn OC 916. Dyma’r unig enghraifft o’r math hwn o anheddiad sy’n hysbys yng Nghymru. Mae’n fwy nodweddiadol o’r Alban ac Iwerddon ac yn tynnu sylw at y cysylltiadau â grwpiau eraill ac at eu dylanwad. Gellir hefyd ei weld mewn amryw o leoedd yn y gogledd-orllewin, fel Traeth Coch ym Môn, man sydd, ynghyd â’r dystiolaeth arall o enwau lleoedd a darganfyddion yno yn dangos yn glir i’r Llychlynwyr anheddu’r ardal a bod ganddynt gryn ddylanwad yno. Ceir aneddiadau Eingl-Sacsonaidd ar hyd gororau Clwyd a Phowys gan i rannau ohonynt berthyn i deyrnas Mersia ar un adeg. Yma, sefydlwyd sawl tref neu fwrdeistref. Un ohonynt oedd Rhuddlan (Cledemutha), a sefydlwyd gan Edward yr Hynaf yn OC 921. Mae’r gwaith cloddio yno wedi dod ag amddiffynfeydd y dref, yn ogystal â gweddillion tai â lloriau suddedig, i’r golwg.

Nodwedd bwysig ar y cyfnod hwn oedd dylanwad eang Cristnogaeth. Dangosir hynny gan y ffaith i amryw o safleoedd crefyddol bach ac ynddynt gymunedau o fynachod neu leianod gael eu sefydlu. Prin iawn yw olion yr aneddiadau hynny; y dystiolaeth orau sydd gennym yw mynwentydd o’r Oesoedd Canol cynnar fel yr un yn Nhandderwen ger Dinbych.


Cestyll ac Abatai: Anheddu yn yr Oesoedd Canol

Perthyn i’r Oesoedd Canol (OC1100-1500) y mae’r tai cynharaf yng Nghymru sy’n dal i sefyll a chafwyd hyd i ddyddiadau eu codi drwy gyfrwng rhaglen dyddio blwyddgylchau y Comisiwn Brenhinol. Dyddiant o gyfnod cynnar yn y bymthegfed ganrif, a hynny’n bennaf ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr. Hafodygarreg ger Erwd yn Sir Frycheiniog yw’r tŷ neuadd cynharaf yng Nghymru y mae dyddiad pendant iddo: cafodd ei godi o bren coed a gwympwyd yn ystod haf 1402.

  • Mwnt a beili Castell Sycharth ger Croesowallt.  Yn ôl y disgrifiad ohono gan Iolo Goch, bardd Owain Glyndwr, ohono yr oedd i’r castell naw neuadd a llu o siambrau a fyddai wedi cael eu codi o bren.  Llosgwyd y castell yn ulw gan y Tywysog Henry ifanc adeg ei gyrch dialgar cyntaf i Gymru ym 1403 ac ni chafodd ei adfeddiannu ar ôl hynny. (Llun: DI2006_0979 / NPRN: 306999)
  • Castell y Bere yn rhan uchaf cwm Dysynni:  codwyd y castell hwn ar safle cwbl nodedig i reoli’r prif lwybr drwy’r mynyddoedd. (Llun: GTJ00182 / NPRN: 93719)
  • Castell Conwy. (Llun: DI2006_0436 / NPRN: 121)

Y ffurf fwyaf arbennig ar adeilad yn yr Oesoedd Canol yw’r castell. Cafodd y ffurfiau cynharaf arno, sef y mwnt a beili o bridd a phren, eu codi’n bennaf gan arglwyddi’r Gororau Seisnig yn y tiriogaethau a oresgynnwyd ganddynt ar hyd a lled de, canolbarth a gogledd Cymru. Mae rhyw 300 ohonynt yn hysbys, ac un o’r enghreifftiau cliriaf yw Castell Sycharth ger Croesoswallt. Er nad yw’n amlwg pwy a’i cododd, credir iddo fod wedi cael ei godi erbyn y ddeuddegfed ganrif. Mae iddo arwyddocâd hanesyddol arbennig gan iddo fod yn gartref i Owain Glyndŵr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg cyn iddo wrthryfela. O’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, dechreuwn weld codi cestyll o gerrig, datblygiad sy’n dangos bod y rhyfela rhwng y Cymry a’r Saeson yn parhau. Un o’r mwyaf a’r cywreiniaf o’r cestyll brodorol yw Castell y Bere yn rhan uchaf cwm Dysynni, i’r gogledd-ddwyrain o Dywyn. Fe’i codwyd gan Lywelyn Fawr yn ystod y 1220au. Cafodd ei gipio a’i gadw gan y Saeson ym 1283 ond fe’i llosgwyd i’r llawr yn ddiweddarach yn ystod gwrthryfel Madog Llywelyn ym 1294. Mae Conwy a Chaernarfon ymhlith yr enghreifftiau gorau o’r cestyll a godwyd gan y Saeson wedi goresgyniad Edward I tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a’r naill a’r llall yn gampwaith milwrol gan James of St George, Meistr Gweithfeydd y Brenin yng Nghymru. Wrth ymyl y ddau ohonynt yr oedd trefi siartredig a gawsai eu hamgáu o fewn eu waliau eu hunain. Tŷ Aberconwy yng Nghonwy yw’r tŷ tref cynharaf sy’n sefyll ar ei draed yng Nghymru gan iddo gael ei godi o bren coed a gwympwyd yn ystod gwanwyn 1420.

  • Castell a Thref Caernarfon. (Llun: DI2005_0221 / NPRN: 95318)
  • Ty Aberconwy yng Nghonwy.  Dyma’r adeilad trefol domestig a seciwlar cynharaf yng Nghymru y cafwyd hyd i ddyddiad pendant iddo drwy raglen y Comisiwn Brenhinol i ddyddio ar sail blwyddgylchau. (Llun: DI2005_1080 / NPRN: 25978)
  • Abaty Tyndyrn. (Llun: CD2005_604_010 / NPRN: 359)

Mae trefi amddiffynedig eraill, fel Dinbych , [3-2-5]Rhuthun a Threfaldwyn, a godwyd gan yr Eingl-Normaniaid wedi goroesi hyd heddiw. Cafodd y mwyafrif ohonynt eu cynllunio a’u patrymu ar grid o strydoedd. Ar hyd darnau cul o dir, neu fwrgeisiau, a redai’n ôl o’r strydoedd, ceid siopau, gweithdai, anheddau a gerddi crefftwyr a marsiandwyr. Ymhlith prif nodweddion eraill y trefi hynny yr oedd lleoedd marchnad, neuaddau marchnad, neuaddau tref, melinau ac eglwysi.

Sefydlwyd safleoedd crefyddol o bwys ledled Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys sefydliadau Sistersaidd trawiadol Abaty Tyndyrn yn Sir Fynwy, un o’r rhai mwyaf disglair, ac Ystrad Fflur yng Ngheredigion, un o’r rhai mwyaf anghysbell. Datblygwyd ystadau mawr i’w cynnal, a sefydlwyd ffermydd neu faenorau i reoli’r tir. Mewn mannau eraill, câi’r tir ei rannu rhwng yr arglwyddi ac yn yr ardaloedd a oedd o dan reolaeth y Saeson, fe rannwyd y tir yn faenorau sef, yn wreiddiol, barseli o ffioedd marchogion. Prif ganolfannau gweinyddol y maenorau oedd y cestyll neu aneddiadau eraill o statws uchel, megis llociau amffosog, ac ar wasgar o amgylch gwahanol rannau’r faenor yr oedd pentrefi lle trigai’r rhai a oedd yn berchen neu’n prydlesu tir cyfagos neu’n gweithio’n uniongyrchol i arglwydd y faenor. Yn nheyrnasoedd y Cymry, yr oedd y tir wedi’i rannu’n unedau gweinyddol a oedd wedi’u rhannu, yn eu tro, yn drefi. Yno, byddai’r mwyafrif o’r bobl yn byw mewn cartrefi gwasgaredig a thir âr agored a thir porfa o’u cwmpas. Ledled Cymru, mae modd gweld olion yr aneddiadau gwledig sydd wedi goroesi. Maent naill ai wedi’u haddasu ac wedi para hyd heddiw, neu’n weddillion yn y dirwedd. Gelwir yr olaf yn ‘aneddiadau canoloesol anghyfannedd’, ac efallai i bobl roi’r gorau i fyw ynddynt yn ystod y cyfnodau o galedi a gafwyd adeg y dirywiad yn yr hinsawdd – a’r pla – yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y tŷ hir yw’r cartref canoloesol clasurol lle byddai teuluoedd ac anifeiliaid, yn draddodiadol, wedi byw o dan yr unto. Mae cytiau petryal eraill o gerrig wedi goroesi ledled uwchdiroedd Cymru ac fe all mai hafodydd neu luestau, sef preswylfeydd dros dro neu dymhorol, oedd llawer ohonynt.

  • Upper Cwmcadarn ger Talgarth yn Sir Frycheiniog.  Mae’r gwrthgloddiau’n dangos bod anheddiad canoloesol anghyfannedd wedi’i ddiogelu’n dda yma a’i fod wedi goroesi yng nghanol tir pori sydd wedi’i wella.  Mae’r gwrthgloddiau’n cynnwys ty hir sydd wedi’i godi ar deras yn y llethr, ac yn ei ymyl mae dau neu dri o adeiladweithiau sy’n llai o faint.  Saif yr olaf ar lwyfan mewn cae mawr o argloddiau, ac wrth droi’r tir yn ddiweddarach diflannodd rhan o’r llwyfan o’r golwg.
  • Aneddiadau canoloesol anghyfannedd yn ardal Llynnoedd Teifi o Ceredigion.  Yn y tir pori a wellwyd, sef y tir ar waelod y llun, mae modd gweld olion gwrthgloddiau cyfres o aneddiadau canoloesol anghyfannedd. (Llun: CD2003_634_011 / NPRN: 300063)
  • Nannerth-ganol, Rhaeadr Gwy:  mae’r ffermdy hwn, sydd wedi’i adfer, yn enghraifft wych o dy hir ‘gwerinol’ o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg. (Llun: DI2005_0028 / NPRN: 81416)

Effaith Diwydiant: Anheddu yn y Cyfnod Ôl-Ganoloesol hyd Heddiw

Oherwydd y cynnydd mewn gweithgarwch diwydiannol yn ystod y Cyfnod Ôl-ganoloesol fe sefydlwyd mathau newydd o anheddiad a thai. Yn eu plith yr oedd yr aneddiadau bach i sgwatwyr neu’r ‘tai unnos’, fel y rhai ym Mryngwyn Bach ger Tregaron yng Ngheredigion. Yno, ceid cyfres o fythynnod a thai hwnt ac yma ar draws dir comin, a hynny fel arfer ar dir uchel sydd ar derfyn, neu uwchlaw terfyn, y tir y gellir ei ddiwyllio. Sefydlwyd hefyd drefi a phentrefi i wasanaethu cwmnïau, fel yng Nghefnan ger Bethesda lle cododd y gweithwyr resi unffurf o fythynnod a gerddi yn y 1870au ar dir agored yn unol â chynlluniau Rheolwyr Chwarel Lechi’r Penrhyn, neu’r cymunedau llawer mwy eu maint sy’n gysylltiedig â Chwarel Lechi Dinorwig ac a ymledodd ar draws llethrau Moel Tryfan, Cilgwyn a Deiniolen. Yn y de, yn yr un modd, mae modd gweld y terasau o dai, fel y rhai yng Nghwm Rhondda, a gafodd eu codi ar frys yn gartrefi i weithwyr y diwydiannau haearn, dur a glo. Mae gan y Comisiwn Brenhinol gasgliad unigryw o ddeunydd am dai diwydiannol, o waith Jeremy Lowe

  • Chwarel Lechi’r Penrhyn. (Llun: CD2005_606_008 / NPRN: 40564)
  • Awyrlun o’r tai diwydiannol yn Gefnan ger Bethesda a godwyd gan Chwarel Lechi’r Penrhyn. (Llun: DI2006_0727 / NPRN: 402482)
  • Tai unnos Bryngwyn Bach ger Tregaron. (Llun: DI2006_0758 / NPRN: 402595)

Yn wahanol iawn i hynny, fe welwn ni hefyd dai crand neu blastai’r cyfoethogion. Codwyd llawer ohonynt gan wŷr a elwodd o fyd masnach a diwydiant. Yn aml, maent yn rhan o ystadau llawer mwy sydd hefyd yn cynnwys gerddi ffurfiol, tiroedd ymblesera, parciau ceirw a ffermydd model, fel Leighton Park yn Ffordun, Powys.

  • Newton House, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin: cafodd y ty gwreiddiol a godwyd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg ei ailwampio yn null Fenis yn ystod 1856-9.  Mae’r cwrt a’r adeiladau y tu ôl i’r plasty hefyd yn dyddio o gyfnod yr ailwampio ac yno yr oedd y gegin, yr adeiladau gwasanaethu a’r stablau. (Llun: DI2006_0924 / NPRN: 17603)
  • Nanteos Lodge ger Aberystwyth.  Sefydlwyd ystâd Nanteos gan deulu’r Powelliaid ganol y ddeunawfed ganrif.  O’u heiddo a’u mwyngloddiau plwm y daeth y rhan fwyaf o’u cyfoeth. (Llun: DI2006_0857 / NPRN: 279)
  • Llanelly House.  Dyma un o’r enghreifftiau gwychaf yn y de o dy tref o ddechrau’r ddeunawfed ganrif.  Fe’I codwyd gan Syr Thomas Stepney, AS Sir Gaerfyrddin. (Llun: DI2005_1164 / NPRN: 17510)

Cafodd dyfodiad y rheilffyrdd ganol oes Victoria effaith fawr ar Gymru, ac un effaith oedd sefydlu trefi glan-môr fel Llandudno, y Rhyl a Bae Colwyn ar hyd arfordir y gogledd. Cyn dyfodiad y rheilffordd, doedd [3-2-4]Aberystwyth fawr mwy na phentref pysgota masnachol mawr. Gynted ag y cyrhaeddodd y trenau o 1864 ymlaen, symudodd canolbwynt y lle o’r porthladd i’r traethau, a chanlyniad hynny oedd codi gwestai ac amryw o adeiladweithiau ac iddynt nodweddion pensaernïaeth arbennig glan-môr, fel y pier a neuaddau cerdd. Ymhen ugain mlynedd, yr oedd y dref yn gyrchfan glan-môr lewyrchus i’r dosbarth gweithiol wrth i lowyr a gweithwyr dur dyrru yno yn eu miloedd o gymoedd y de.

  • Promenâd Aberystwyth.  Yn y cefndir mae Rheilffordd y Graig, a agorwyd ym 1896. (Llun: DI2006_0817 / NPRN 33035)
  • Awyrlun o Landudno. (Llun: GTJ22544 / NPRN: 33018)
  • Ystâd Dai Glebelands yn Aberdaugleddau. (Llun: DI2006_0564 / NPRN: 402790)

Gellir dal i weld newidiadau mewn patrymau anheddu heddiw – er enghraifft, yn nhwf ystadau newydd wrth i fwy a mwy o berchennog-feddianwyr brynu tai wedi’r rhyfel. Ar y llaw arall, fe adlewyrchir y dirywiad a welwn ni yn y cymunedau pentrefol gan y nifer fawr o gapeli sydd bellach ar gau.