Mae hanes Cymru’n annatod glwm wrth y môr. Gan ei fod ar dair ochr iddi, mae’r môr wedi bod yn ffynhonnell bwyd, yn ffordd o deithio ac yn llwybr cyfathrebu i Gymru. Mae’r môr hefyd wedi chwarae rhan fawr yn nhwf diwydiant a masnach ac wedi denu pobl ato i hamddena a mwynhau. O’r tomenni cregyn a adawyd gan drigolion cynnar Cymru i’r porthladdoedd a’r dociau lle’r anfonwyd cynhyrchion holl ddiwydiannau Cymru i weddill y byd, mae safleoedd morol ac arforol o’r pwys pennaf o ran deall datblygiad Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Ar hyd arfordir Cymru, cafwyd bod cannoedd o safleoedd ac adeiladau sy’n archaeolegol a hanesyddol bwysig, a hyd yn hyn fe gofnodwyd bod dros 4,000 o gychod a llongau wedi’u colli yn nyfroedd Cymru. Mae manylion pob un ohonynt i’w cael ar Coflein neu yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Sefydlu Arfordir Cymru: cyn ac ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf
Nid yw arfordir Cymru fel y mae ef heddiw ddim bob amser wedi bod yn ymyl y môr, a chyn yr Oes Iâ ddiwethaf, pan oedd lefelau’r môr yn is o lawer, byddai llawer o’r hyn sydd bellach yn arfordir wedi edrych allan dros wastadeddau arfordirol eang. Denodd y tiroedd hynny ddyn yn gynnar am fod modd hela a chasglu arnynt, a cheir tystiolaeth arteffactau i bobl Neanderthal fod yma yn y cyfnodau Palaeolithig Isaf a Chanol, sef, o bosibl, 200,000 o flynyddoedd cyn dyfodiad y dyn modern. Am lawer o’r cyfnod Palaeolithig Uchaf, rhwng 26,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl, doedd dim modd byw ar dir Cymru am fod iâ’n gorchuddio rhan fwyaf ohono. Ond rhywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw, naill ai cyn neu ar ôl y rhewlifo llawn, bu Homo sapiens yn brysur yma. Claddiad y ‘Ferch Goch’ enwog yn Ogof Paviland – bedd gŵr ifanc y mae ei esgyrn wedi’u staenio ag ocr coch – yw’r cynharaf sy’n hysbys ym Mhrydain ac mae’n elfen sylfaenol wrth i ni geisio deall y bodau dynol cyntaf ym Mhrydain. Ar arfordir penrhyn Gŵyr, uwchlaw Môr Hafren, y mae Ogof Paviland, ond adeg y claddu fe edrychai allan dros wastadeddau glaswelltog eang.
Ar ôl Oes yr Iâ ac yn ystod y cyfnod Mesolithig, cododd lefel y môr lawer iawn, a sefydlwyd arfordir Cymru fwy neu lai fel y mae ef heddiw. Er hynny, mae’r ymylon arfordirol wedi newid cryn dipyn dros y canrifoedd ac fe all yr hyn sydd bellach yn flaendraeth creigiog, yn draeth sydd wedi’i ddinoethi neu’n fwd mewn aber fod, ar wahanol adegau, wedi bod yn fawnog, yn wern o gyrs, yn dir coediog ac yn flaendraeth unwaith eto ar wahanol gyfnodau. Mae tystiolaeth o’r cyfnodau hynny wedi goroesi ar hyd yr arfordir ac mae ‘coedwigoedd boddedig’, sef olion tir coediog diflanedig sydd i’w gweld yn aml pan fydd y llanw’n isel, yn enghraifft drawiadol o’r hyn sydd i’w weld mewn sawl man ar flaendraethau Cymru. Gall y palaeo-amgylcheddau suddedig hyn ac, yn arbennig, y dyddodion o fawn sydd wedi’u dinoethi, gynnig data rhagorol ynglŷn â’r newidiadau yn yr hinsawdd ac mewn planhigion ac mewn anifeiliaid dros gryn gyfnod o amser ac, o’u hystyried ar y cyd â’r dystiolaeth o arteffactau o wneuthuriad dyn, gallant helpu i greu darlun o weithgarwch dynol ac o anheddu yn y parth hwn.
Yr Arfordir Cynhanesyddol: yr Olion Cyntaf o Weithgarwch Dyn
Mae’n amlwg i arfordir Cymru weld gweithgarwch dynol o’r cyfnodau cynharaf, ac iddo fod yn ffynhonnell bwysig o fwyd yn bennaf. Tystion i hynny yw’r pentyrrau o gregyn cocos ac wystrys y cafwyd hyd iddynt ar aberoedd, ac mae rhai ohonynt yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig. Mae olion traed o’r oes honno, a’r rheiny wedi’u diogelu yn y parth rhynglanwol wrth aber afon Wysg ger Casnewydd, yn dystiolaeth ryfeddol o uniongyrchol o weithgareddau’r helwyr-gasglwyr ar hyd yr arfordir. Mae mân ddarnau sy’n weddill o arfau cerrig yn dangos bod pobl wedi byw yno drwy gydol yr oes Neolithig, ac mae dosbarthiad mathau rhanbarthol penodol o fwyeill carreg yn rhyw led-awgrymu y caent eu cludo ar draws y moroedd. Mae’r elfennau arddulliol sy’n gyffredin rhwng henebion defodol fel beddrodau yng Nghymru ac Iwerddon yn awgrymu bod cysylltiadau diwylliannol wedi bodoli ar draws Môr Iwerddon.
Mae’r olion cynharaf o gychod neu longau y cafwyd hyd iddynt hyd yn hyn yng Nghymru yn dyddio o’r Oes Efydd, a dônt o gwch sydd wedi’i wnïo (cwch a’r darnau pren ynddo wedi’u clymu wrth ei gilydd). Fe’i hadeiladwyd tua 1000 CC a chafwyd hyd iddo yn Allteuryn ar Fôr Hafren. Ceir tystiolaeth dda o anheddu ar hyd yr arfordir yn yr Oes Efydd, gan gynnwys safle cwt y cafwyd hyd iddo ar dir rhwng y ddau lanw yn aber afon Hafren ym Magwyr, ynghyd â chrochenwaith, esgyrn anifeiliaid a golosg. Erbyn tua diwedd yr Oes Efydd, a thrwy gydol yr Oes Haearn, câi arfordir Cymru ei ecsbloetio oherwydd ei botensial amddiffynnol. Codwyd amryw byd o fryngaerau a chaerau pentir i fanteisio ar glogwyni uchel a llethrau serth y glannau. Mae’r darganfyddion a wnaed yno’n awgrymu bod pobl wedi dal i fyw ar rai o’r safleoedd hynny drwy gydol y cyfnod Brythonig-Rufeinig.
Yr Arfordir yng nghyfnod Hanes Cynnar: o’r Rhufeiniaid tan y Llychlynwyr
Yn sgil meddiannu Cymru gan y Rhufeiniaid, gwelwyd ehangu’r preswylio ar yr arfordir o ran safleoedd milwrol ac o ran aneddiadau cysylltiedig i sifiliaid. Yn aml, câi lleng-gaerau mawr eu codi ar lannau afonydd neu aberoedd mordwyadwy er mwyn hwyluso symud dynion a chyflenwadau o le i le, ac o’r cyfnod Rhufeinig y daw tystiolaeth o’r ceiau cyntaf yng Nghymru – er enghraifft, y cei ar lan afon Wysg ger y lleng-gaer fawr yng Nghaerllion. Mae’n amlwg bod cynnwys Cymru mewn ymerodraeth mor fawr wedi cynyddu’r fasnach a’r cysylltiadau diwylliannol â gwledydd tramor yn ogystal â chynyddu’r hwylio rhwng aneddiadau lleol. Cafwyd hyd i gwch o gyfnod y Rhufeiniaid yn fferm Barlands ger Magwyr, ac fe all mai cei o gerrig sydd gerllaw.
Wrth i’r Ymerodraeth Rufeinig chwalu, fe dorrwyd cysylltiad Cymru â rhwydwaith helaeth o lwybrau masnachu dramor, ond yn gynnar yn yr Oesoedd Canol gwelwyd y cysylltiadau oesol ar hyd Môr Iwerddon a’r arfordir gorllewinol yn tyfu’n fwyfwy pwysig unwaith eto, yn enwedig wrth i’r diwylliant Cristnogol Celtaidd ledu. Mae’r cofnod ysgrifenedig o’r cyfnod hwnnw’n cyfeirio’n gyson at y teithiau a wnaed gan y rhai a oedd yn ymwneud â’r eglwys, nid yn unig rhwng Cymru ac Iwerddon ond i Gernyw, yr Alban a Llydaw. Amlygir y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng Iwerddon a Chymru bryd hynny gan y meini coffa arysgrifenedig o’r cyfnod hwnnw sy’n cynnwys sgriptiau Lladin ac Ogam ac sydd i’w cael yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon.
Er bod enwau lleoedd Llychlynnaidd, fel ‘Sgogwm/Skokholm’ neu ‘Orme’, ar sawl nodwedd ar hyd yr arfordir ac er bod cyfeiriadau at y Llychlynwyr yn y cofnod ysgrifenedig, prin yw’r dystiolaeth archaeolegol o weithgarwch y Llychlynwyr yng Nghymru. Un o’r eitemau mwyaf trawiadol o oes y Llychlynwyr yng Nghymru yw dyrnfol cleddyf sy’n frithaddurnedig ag aur ac yn dyddio o tua 1100. Cafwyd hyd iddo gan ddeifiwr amatur ar riff ynysoedd y Smalls oddi ar Sir Benfro. Arweiniodd hynny at ddynodi man ei ddarganfod yn safle llongddrylliad posibl. Ond go brin bod unrhyw safle wedi’i gydnabod yn gyn-anheddiad i Lychlynwyr, ar wahân i’r safle amddiffynedig yn y Glyn, Môn, a hwnnw’n safle a ddatblygwyd, efallai, yn ganolfan fasnachu.
Ehangu’r Anheddu ar yr Arfordir: yr Oesoedd Canol
Gwelwyd cryn ehangu ar yr anheddu ar yr arfordir yn ystod yr Oesoedd Canol, a dyna pryd y sefydlwyd bron pob un o’r trefi sylweddol sydd ar hyd arfordir Cymru heddiw. Yr oedd amrywiol gyfnodau’r concwest Normanaidd ac Edwardaidd yn gofyn am sefydlu canolfannau milwrol y gellid eu cyflenwi o’r môr, ac mae’r gadwyn fawr o gestyll ar hyd arfordir Cymru yn dyst parhaol i hynny. O gwmpas y canolfannau milwrol fe dyfodd aneddiadau sifil o gryn faint gan ysgogi twf cyfatebol yn y masnachu dros y môr. Ond mae’r datblygu a fu ar yr aneddiadau hynny ar hyd y canrifoedd dilynol wedi golygu mai cymharol brin yw’r dystiolaeth sydd wedi goroesi o weithgarwch morol y cyfnod, ac wrth i’w trefi a’u harbwrs, eu dociau a’u ceiau ddal i dyfu a newid, mae’r datblygiadau newydd wedi cuddio’r hen rai.
Er hynny, mae’r cofnod archaeolegol morol yn cadarnhau pa mor bwysig oedd masnachu ar y môr i Gymru’r Oesoedd Canol gan fod olion nifer o gychod a llongau o’r cyfnod wedi dod i’r golwg. Yn Magor Pill yn aber afon Hafren cafwyd hyd i long nwyddau o’r drydedd ganrif ar ddeg â’i llwyth o fwyn haearn yn dal ynddi, ac mae hynny’n dystiolaeth o’r masnachu ar hyd yr arfordir ac o’r masnachu cynnar mewn defnyddiau crai diwydiannol. Tystiolaeth o’r fasnach dramor yn y bymthegfed ganrif yw’r llong fasnachu y cafwyd hyd i’w gweddillion – a’r rheiny wedi’u diogelu’n dda – ar lan afon Wysg yng Nghasnewydd. Yr oedd hwnnw’n ddarganfyddiad o bwys rhyngwladol. Mae arteffactau o’r llong, fel corc, darnau arian a chrochenwaith, yn awgrymu iddi fod yn masnachu â phenrhyn Iberia. Mae lleoliad y llong gerllaw’r castell canoloesol yn gysylltiedig â’r lanfa a arferai fod yno, mae’n debyg, ond mae datblygiadau wrth godi ceiau’n ddiweddarach wedi cuddio’r hen lanfa.
Ar hyd arfordir Cymru hefyd, mae’r llu maglau a choredau pysgod a gynlluniwyd i ddal pysgod wrth i’r llanw gilio yn dangos yr ecsbloetio economaidd a fu ar yr arfordir yn ystod y cyfnod. Er bod yr olion pendant cynharaf o safleoedd o’r fath yng Nghymru yn dyddio o’r bumed neu’r chweched ganrif, ac er bod tystiolaeth o faglau sy’n dyddio efallai o’r Oes Efydd neu cyn hynny, perthyn i’r drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar ddeg y mae’r mwyafrif o’r maglau pysgod. Yr oedd yr adeiladweithiau hynny’n adnodd economaidd pwysig yng Nghymru’r Oesoedd Canol, fel y tystir gan gadernid llawer ohonynt a chan y cofnod ysgrifenedig o’r cyfnod - cofnod sy’n cynnwys dogfennu’r hawliau cyfreithiol i’r pysgod a gâi eu dal ganddynt. Eiddo mynachod Abaty Ystrad Fflur, er enghraifft, oedd y maglau pysgod sydd i’w gweld yn amlwg ar draeth Aber-arth yng Ngheredigion, ac mae rhoi’r hawl honno wedi’i gofnodi yn siarter Rhys ap Gruffydd ym 1184.
Twf Masnach Ryngwladol: y Cyfnod wedi’r Oesoedd Canol
Wedi’r Oesoedd Canol gwelwyd cynnydd cyson yn y gweithgarwch ar hyd yr arfordir. Gan fod y boblogaeth yn tyfu a’r fasnach fyd-eang yn ehangu, fe arweiniodd y cynnydd yn nifer y llongau at gynnydd yng nghyfleusterau’r porthladdoedd a’r harbwrs. Daeth Môr Iwerddon yn fwyfwy pwysig fel môr-lwybr o bwys rhwng Prydain ac Iwerddon ac ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain. Canlyniad datblygu’r fasnach ar draws Môr Iwerydd yn sgil gwladychu’r Byd Newydd oedd i arfordir gorllewinol Prydain fagu pwysigrwydd newydd, a chanlyniad datblygu’r ddau borthladd mawr ym Mryste a Lerpwl oedd symbylu llawer iawn o fasnachu ar y môr ar hyd arfordir Cymru. Ceir darluniau byw iawn o’r masnachu hwnnw yn y cofnod archaeolegol morol. O’r ddau longddrylliad o’r cyfnod modern cynnar – sydd wedi’u dynodi’n gyfreithlon – oddi ar arfordir Cymru, mae’r gyn-long frenhinol, Mary, a suddodd ar ynysoedd y Moelrhoniaid ger Ynys Môn ym 1675 wrth gludo pobl bwysig o Iwerddon yn enghraifft o beryglon teithio ar draws Môr Iwerddon yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ac mae llongddrylliad y ’Bronze Bell’ sy’n gorwedd ychydig oddi ar y traeth yn Harlech ers yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif yn enghraifft o long fasnachu arfog sylweddol y mae ei chargo o farmor o’r Eidal yn tystio i fasnach Ewropeaidd fwyfwy soffistigedig.
Canlyniad peryglon oesol mordwyo, fel yr awgrymir gan yr amryfal longddrylliadau ar hyd yr arfordir, oedd amlhau math arall o safle arforol o’r cyfnod modern cynnar ymlaen, sef y goleudy. Ceir tystiolaeth o arwyddion a oedd heb eu goleuo ond y gellid eu gweld o’r môr liw dydd, a thyrrau coelcerth syml o’r Oesoedd Canol ac, efallai, o gyfnod y Rhufeiniaid. O ddechrau’r ddeunawfed ganrif ymlaen, codwyd mwy a mwy o oleudai a rheiny’n fwyfwy soffistigedig. Caent eu codi nid yn unig ar yr arfordir ond hefyd allan ar y môr, ar ynysoedd neu hyd yn oed ar greigiau uwchlaw’r môr. Enghraifft arbennig o drawiadol ac arloesol oedd hwnnw ar y Smalls. Codwyd adeiladwaith o bren, ac ynddo ddigon o le i fyw, ym 1775, ond nid tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y codwyd goleudy sylweddol o gerrig i gymryd ei le.
Yn ystod y cyfnod wedi’r Oesoedd Canol gwelwyd adeiladu’r safleoedd amddiffynnol pwrpasol cyntaf ar hyd arfordir Cymru i wrthsefyll goresgyniad o’r môr gan fyddinoedd tramor. Y bloc o adeiladau a godwyd y naill ochr a’r llall i aber Aberdaugleddau yn yr unfed ganrif ar bymtheg i amddiffyn yr harbwr naturiol pwysig yw’r cyntaf, er enghraifft, mewn rhes hir o adeiladweithiau o’r fath a fyddai’n amlhau dros y canrifoedd dilynol pan fyddai bygythiad yn codi. Y mwyaf nodedig ohonynt yw’r amddiffynfeydd a godwyd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dan gyfarwyddyd Palmerston, a’r amddiffynfeydd helaeth a godwyd ar hyd yr arfordir yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Masnach a Hamdden: Y Chwyldro Diwydiannol
Arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at ddatblygu enfawr ar gyfleusterau porthladdoedd a harbwrs er mwyn hwyluso allforio - i bedwar ban y byd - y glo, yr haearn, y dur, y copr, y tunplat a’r holl gynhyrchion eraill y daeth Maes Glo’r De yn adnabyddus amdanynt ledled y byd. Mae ar bob un o ddinasoedd mawr modern Cymru, sef Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, ddyled i weithgarwch y porthladdoedd diwydiannol allweddol hynny yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’r nodweddion a geid yn gyffredin yn y porthladdoedd hynny - y dociau sylweddol, y cyfleusterau llwytho, y warysau a’r adeiladau gweinyddol - yn fathau pwysig o safleoedd diwydiannol ac erbyn heddiw mae pwysau i ailddatblygu llawer ohonynt yn sgil y dirywiad cyson yn y diwydiannau trymion wedi’r Ail Ryfel Byd. Gwelwyd datblygu ar raddfa lai ar hyd yr arfordir yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a datblygwyd sawl harbwr yn y gogledd, mewn lleoedd fel Porthmadog a Chaernarfon, i ateb anghenion dau ddiwydiant prysur, sef y diwydiant llechi a’r diwydiant gwenithfaen. Yn ogystal, mae diwydiannau a sefydlwyd ar hyd yr arfordir, fel y diwydiant brics, y chwareli cerrig a’r diwydiant llosgi calch, wedi gadael eu hôl ar hyd arfordir Cymru. Yn aml, yr hyn a geir yn y mannau hynny yw safleoedd lle byddid yn echdynnu mwynau, yn eu prosesu ac yna’n eu hallforio.
Tua diwedd y ddeunawfed ganrif fe ddechreuodd yr haen gymdeithasol uchaf fynd i lan y môr i dreulio’u hamser hamdden, a thyfodd nofio yn y môr yn weithgarwch hamdden poblogaidd ymysg y dosbarth uchaf. Trodd Abertawe a Dinbych-y-pysgod, ymhlith trefi eraill, yn drefi glan-môr atyniadol. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd yr arfer wedi lledu i bob haen o gymdeithas, a bu datblygu’r rheilffyrdd newydd yn fodd i ddatblygu trefi glan-môr yn ganolfannau gwyliau. Yr oedd hynny’n arbennig o bwysig i’r poblogaethau diwydiannol mawr yn y de lle’r oedd trefi glan-môr fel y Barri a Phorthcawl yn cynnig cyfle hwylus iddynt dreulio’u hamser hamdden yn weddol rad. Dechreuodd gweithwyr o ganolfannau diwydiannol fel Birmingham a Manceinion heidio i arfordir canolbarth a gogledd Cymru i dreulio’u gwyliau mewn lleoedd fel y Rhyl, Aberystwyth a Llandudno. Tystion i gryfder y duedd honno yw’r promenâd, y pier a’r traethau hamdden sy’n gyffredin i lawer o drefi glan-môr Cymru, ac er i boblogrwydd gwyliau glan-môr ym Mhrydain bylu’n sydyn yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, mae ymwelwyr â’r arfordir, a defnyddio’r môr at ddibenion hamdden, yn dal i gyfrannu cryn dipyn o arian i economi Cymru.
Pwysigrwydd Parhaus yr Arfordir: Heddiw
Heddiw, mae’r defnydd a wneir o’r arfordir a’r môr o amgylch Cymru yn dal i dyfu a newid. Hamdden sy’n gyrru llawer o hynny o hyd, a thros y blynyddoedd diwethaf mae llawer harbwr yng Nghymru wedi gweld datblygu marina ynddo - ynghyd â’r datblygiadau preswyl cysylltiedig. Mae’r marinas hynny i gychod hamdden wedi dod â bywyd newydd i borthladdoedd a threfi glan-môr a oedd gynt yn mynd ar i lawr. Mae’r datblygu diwydiannol ar yr arfordir hefyd wedi parhau, a hynny’n bennaf mewn perthynas â derbyn a dosbarthu tanwydd, yn enwedig yn Aberdaugleddau. Y digwyddiad diweddaraf yn y maes hwnnw yw codi dwy derfynell fawr yn Herbrandston a Waterston i fewnforio a chyflenwi nwy naturiol hylifedig. Gan fod y rheiny’n mynd i gysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu ledled Prydain, mae hwn yn brosiect o bwys rhyngwladol ym myd peirianneg sifil. Caiff y môr hefyd ei ecsbloetio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac mae codi ffermydd gwynt alltraeth wedi dechrau o ddifrif yn sgil codi’r gyntaf yn North Hoyle ger y Rhyl. Gall grym y tonnau hefyd gael ei ddatblygu’n ffynhonnell ynni, ac mae tyrbinau’n cael eu profi ym Môr Hafren ar hyn o bryd.
Er bod y gweithgarwch parhaus ar y môr a’r arfordir yn ychwanegu safleoedd newydd at y cofnod o arfordir Cymru, mae’r datblygiadau hefyd yn gosod pwysau ar yr archaeoleg sydd yno. Mae’n hanfodol gwneud cofnod digonol o’r adnodd bregus hwn gan ei fod dan fygythiad nid yn unig o gyfeiriad gweithgarwch dynol ond hefyd am fod amgylchedd y môr mor ddidostur. Mae angen i’r broses gynllunio fod yn effro i ba mor sensitif yw treftadaeth yr arfordir. Gan i gylch gwaith y Comisiwn Brenhinol o ran gwneud cofnod o’r amgylchedd dynol gael ei estyn ers 1992 i gynnwys ‘... yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely’r môr, ar wely’r môr neu o dan wely’r môr...’, ei nod yw cofnodi safleoedd arfordirol a morol yn ddi-dor, o’r tir i’r môr. Mae llawer eto i’w ddysgu am ein perthynas â’r môr. Mae darganfod tystiolaeth newydd a rhyfeddol sydd wedi’i diogelu mewn safleoedd ar hyd yr arfordir, mewn llongddrylliadau ac mewn tirweddau ar wely’r môr yn dangos potensial aruthrol archaeoleg yr arfordir a’r môr i gyfrannu i’n gwybodaeth.