Gan i’r pedair canrif a hanner rhwng dechrau goresgyniad yr Eingl-Normaniaid yn ne-ddwyrain Cymru ym 1070 ac uno Cymru â Lloegr ym 1536 adael toreth o adeiladau a safleoedd archaeolegol ar eu hôl, mae modd i ni amgyffred bywyd pobl yr Oesoedd Canol yn well nag y gallwn ei wneud yn achos pobl o unrhyw oes gynharach. Canlyniad hynny yw bod haneswyr yn ail-greu cymdeithas – neu, yn hytrach, amryw o gymdeithasau – cymhleth a diddorol: yn werin bobl a thrigolion trefi, yn drigolion y bryniau a chymunedau’r dyffrynnoedd a’r arfordir, yn frodorion a mewnfudwyr, rhai ohonynt yn gyfoethog ac eraill yn llwm iawn eu byd, rhai â’u henwau’n hysbys i ni ond y mwyafrif yn gwbl ddi-sôn-amdanynt. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, rhyw 300,000 o bobl a drigai yng Nghymru. Er bod hynny, efallai, yn ddwbl y nifer oedd yno ym 1070, go brin ei bod yn cyfateb i faint dinas Caerdydd yn 2008. Fel mewn rhannau eraill o orllewin Ewrop, yr oedd y boblogaeth wedi tyfu’n gyson am ddwy ganrif a rhagor, ond rhwng 1310 a 1370 daeth newyn, clefydau a phla na phrofwyd mohono o’r blaen i ladd o leiaf draean o’r boblogaeth. Ni chyrhaeddwyd lefel poblogaeth 1300 eto tan yr unfed ganrif ar bymtheg.
Cafodd y newidiadau hynny effaith sylweddol ar y gymdeithas yng Nghymru – ar fyd amaeth ac ar ddefnyddio’r dirwedd, ar nifer a maint y trefi ac ar dwf neu ddirywiad cymunedau lleol. Yn y cyfamser, fe effeithiwyd yn barhaol ar Gymru gan ddatblygiadau ym myd gwleidyddiaeth, rhyfel a llywodraeth Prydain drwy i’r rheiny greu patrwm cymhleth o arglwyddiaethau a siroedd a weinyddid o’r llysoedd, y cestyll a’r tai y gwelwn eu gweddillion yma a thraw. Cymdeithas gwbl Gristnogol, hefyd, oedd cymdeithas yr Oesoedd Canol ac fe welwyd cyfnodau o frwdfrydedd crefyddol dwys. Y brwdfrydedd hwnnw ac ymroddiad ysbrydol a ysgogodd llawer o’r adeiladu, y cerflunio a’r peintio mewn eglwys a mynachlog, ac mae llawer enghraifft ohonynt (fel abaty Tyndyrn a bedyddfaen eglwys Cenarth) yn cyfoethogi’n diwylliant ni hyd heddiw. Diflannu bron yn llwyr fu hanes y nifer fach o Iddewon a ymgartrefodd yn nhrefi Cymru yn sgil y goncwest Normanaidd gan i Edward I eu halltudio o Gymru a Lloegr ym 1290.
Er bod i brofiadau’r Cymry lawer yn gyffredin â phrofiad trigolion gwledydd eraill Prydain a gorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol, perthynai iddynt arbenigrwydd cymdeithasol a diwylliannol amlwg. Ar lawer ystyr, cymdeithas filitaraidd a threisgar oedd cymdeithas yr Oesoedd Canol, ac oherwydd bod clytwaith o deyrnasoedd yng Nghymru – a rhaid cofio i rai ohonynt (megis Powys a Gwynedd) wrthsefyll ymosodiadau’r Eingl-Normaniaid am ddwy ganrif – fe achosodd yr ymrafael rhwng y tywysogion ansefydlogrwydd gwleidyddol. Yr un pryd, creodd y twf yn y boblogaeth ac mewn symudedd cymdeithasol densiynau a gwrthdrawiadau eraill. Symudodd grwpiau o Saeson, Normaniaid, Llydawyr a Ffleminiaid i Gymru wedi i Wilym Goncwerwr oresgyn de-ddwyrain Lloegr ym 1066; teithiodd Gwilym ei hun cyn belled â Thyddewi ym 1081. Parhau dros y canrifoedd wnaeth yr ymfudo hwnnw a phrin, wrth gwrs, yw’r cyfnodau yn hanes modern Cymru sydd heb weld tonnau o fewnfudwyr yn ymgartrefu yma. O 1070 tan 1282, brwydrodd arglwyddi a brenhinoedd o Loegr a Ffrainc, a’u disgynyddion, yn erbyn arglwyddi’r Cymry. Daeth y mewnfudwyr â newidiadau a dylanwadau yn eu sgil gan effeithio ar bob agwedd ar drefn y gymdeithas yng Nghymru drwy godi cestyll, ysgogi bywyd trefol ac, yn raddol, ffurfio cyfundrefn o blwyfi eglwysig. Mae ôl gorffennol canoloesol Cymru o’n cwmpas ni i gyd.
Cafodd y mewnfudo effaith gymdeithasol barhaol. Priododd llawer o’r mewnfudwyr â’r trigolion brodorol ac ymgartrefu ochr yn ochr â hwy, ac ar ôl 1170 fe ymfudodd rhai o aelodau’r teuluoedd hynny draw i Iwerddon. I’r cyfeiriad arall yr aeth rhai o’r Cymry o’r bröydd a ffiniai â Lloegr (arglwyddiaethau’r Mers), sef i ganolbarth a gorllewin Lloegr. Ar diroedd isel a dyffrynnoedd eang dwyrain Cymru, ac ar hyd arfordir y de a’r gogledd, fe greodd y prosesau hynny gymunedau a siaradai ddwy neu dair iaith a datblygu diwylliant cosmopolitaidd arbennig er gwaetha’r holl densiynau a grëwyd yn sgil y gwladychu gan Saeson a Ffrancwyr. Yng Ngwynedd y daliodd yr ymwybyddiaeth o Gymreictod ei thir gadarnaf am mai’r rhanbarth hwnnw oedd yr olaf i deimlo holl effaith y dylanwadau diwylliannol hyn.
Hwb i fywyd economaidd Cymru oedd yr ymfudo i Loegr, Iwerddon a’r cyfandir a’r cysylltiadau agosach â’r mannau hynny. Yn Hanes y Daith drwy Gymru, fe gawn ni gan Gerallt Gymro, a aned o dras gymysg Gymreig a Norman yng nghastell Maenorbŷr ac a fu farw ym 1223, gipolwg ar y newidiadau a oedd ar waith. Er i’r ffyrdd Rhufeinig ddal i gael eu defnyddio yn ystod yr Oesoedd Canol, fe ychwanegwyd llwybrau newydd atynt yn raddol, a chroesai cychod y prif afonydd a chulforoedd (gan gynnwys croesi’r Fenai i Fôn). Yr oedd tiroedd isel ffrwythlon y dwyrain a’r de yn cynnal pentrefi a maenorau yn null y Saeson, ac yno ceid meysydd âr a thir pori i anifeiliaid. Trefnid y meysydd yn ôl y gyfundrefn a oedd yn gyffredin ar diroedd isel Lloegr, sef bod tenantiaid unigol a’u teuluoedd yn trin lleiniau o dir. Gallwn ddal i weld ‘meysydd agored’ o’r fath yn y Vyle yng Ngŵyr ac yn Sir Benfro. Ar dir uchel, amaethyddiaeth fugeiliol a geid amlaf. Yn nhreigl amser, daeth y cynefin defaid yn fwyfwy cyffredin, a’r rheiny wedi’u canoli ar ffermydd a weithid gan ddeiliaid lleyg a gwŷr y tai crefyddol newydd, fel yn Hen Ddinbych a maenor Abaty Ystrad Ffleur yn Pennard, dau sefydliad y mae eu holion wedi’u cofnodi gan y Comisiwn Brenhinol.
Ar hyd holl arfordir Cymru ac aberoedd Hafren a Dyfrdwy lle’r oedd angorfeydd niferus, yr oedd pysgota’n weithgarwch cyffredin a chredir bod rhai o’r maglau pysgod y cafwyd hyd iddynt yn dyddio o’r Oesoedd Canol . Gwelwyd newid mwy dramatig rhwng 1070 a 1330, sef datblygu bron i gant o drefi, a’r mwyafrif o’r rheiny wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir neu ar lannau afonydd y gallai llongau eu hwylio. Datblygwyd rhai ohonynt (fel Caerfyrddin) ar sail cymunedau cynharach, a rhoddodd eu harglwyddi neu frenin Lloegr siarteri i’r pwysicaf ohonynt (fel Aberhonddu) a’u dyrchafu’n fwrdeistrefi. Bu pob un ohonynt, o Gas-gwent i Gaernarfon ac o Benfro i’r Fflint, yn ganolbwynt i economi arian ac i fasnachu mewn marchnadoedd a ffeiriau. Yn y drydedd ganrif ar ddeg, aeth llu o’r trefi ati i godi muriau o gerrig (ac ambell un, fel Trefynwy, i godi pontydd o gerrig) warchod eu buddiannau a rheoli’r fasnach ynddynt. Trigai pobl hefyd ar rai o’r ynysoedd mwyaf ar hyd yr arfordir gan ddatblygu rhywfaint arnynt - Lundy â’i heglwys, ynys Aberteifi â’i llociau anifeiliaid, ac Enlli, lle dywedir i ugain mil o seintiau gael eu claddu.
Camau cyntaf y concwerwyr a’r gwladychwyr hynny wrth iddynt ymledu i Gymru oedd codi tomenni o bridd cywasgedig yn gyflym, ac ychwanegu atynt feilïau ac adeiladau pren (fel y gwnaed yn Nhomen-y-mur). Y bwriad oedd dychryn y brodorion a hwyluso meddiannu rhagor o dir. Bu angen rhai o’r caerau hynny’n ddiweddarach wrth i’r goresgyn droi’n wladychu ac yn anheddu, ac fe’u gwnaed yn gestyll o gerrig mewn mannau fel Abergefenni a Llanfair-ym-Muallt. Gwelodd hyd yn oed arglwyddi’r Cymry fod angen cestyll cadarn (fel yn Ninas Brân). Erbyn 1300, yr oedd mwy o gestyll am bob milltir sgwâr yng Nghymru na bron unrhyw ran gyfatebol o Brydain, ac mae rhaglen y Comisiwn Brenhinol o dynnu awyrluniau yn dal i ddod o hyd i enghreifftiau o’r mwyaf elfennol o’r tomenni cynnar.
Fel y gwnaethant yn Lloegr, adfywiodd y newydd-ddyfodiaid grefydd yng Nghymru, a hynny ar hyd llinellau tebyg i’r hyn a welwyd yn Ffrainc a chan sefydlu cysylltiad uniongyrchol â Rhufain. Daeth y canolfannau traddodiadol, sef Tyddewi, Bangor, Llandaf, a Llanelwy’n ddiweddarach, yn ganolfannau i esgobaethau newydd, ond o dan awdurdod archesgob Caergaint. At yr eglwysi a’r mynachlogydd a fodolai eisoes (fel Llanbadarn Fawr) ychwanegwyd tai crefyddol newydd. Fe’u codwyd, i ddechrau, yn ymyl cestyll a threfi’r goresgynwyr (fel yn Aberhonddu ac Abergefenni ) ac yna ar diroedd mwy anial i fodloni dyheadau’r urdd gydwladol o fynachod, y Sistersiaid, mewn mannau fel Glyn-y-groes ac Ystrad Fflur. Nifer fach yn unig o dai’r brodyr a sefydlwyd yng Nghymru er mwyn cynnig gofal bugeiliol i ganolfannau cymharol fawr o boblogaeth fel Caerdydd a Hwlffordd. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, câi hyd yn oed eglwysi bach eu hailgodi o gerrig ac yn aml (fel y gwnaed yng Ngŵyr ac yn Hodgeston yn Sir Benfro) ychwanegwyd atynt glochdyrau amddiffynnol yn yr arddull leol neu ranbarthol, a’r clochdyrau hynny wedi’u noddi gan y cymunedau eu hunain.
Gwelodd y cyfnod o 1260 tan 1295 drobwynt yn hanes Cymru. Yng Ngwynedd, creodd Llywelyn ap Gruffudd wladwriaeth soffistigedig gan ehangu ei hawdurdod tua’r dwyrain hyd at Afon Dyfrdwy a thua’r de hyd at Sir Gaerfyrddin a chyrion Aberhonddu. I ychwanegu at gestyll ei daid yng Nghricieth a Dolwyddelan, cododd gaer enfawr newydd yn Nolforwyn, ychydig filltiroedd yn unig o gastell y brenin yn Nhrefaldwyn. Rhoes hwb i drefi bach Pwllheli a Nefyn a nawdd i’r Eglwys, gan gynnwys priordy Penmon ym Môn. Yn Rhosyr ym Môn, ger Afon Menai, bu cloddio ar safle un o’i lysoedd yn ddiweddar.
Er i Lywelyn ennill cydnabyddiaeth y brenin o’i safle fel tywysog cyntaf Cymru ym 1267, sbardunodd y gamp ryfeddol honno y brenin newydd, Edward I (1272-1307), i gyfyngu ar uchelgais y tywysog. Mewn dau ryfel byr rhwng 1277 a 1283 goresgynnodd byddinoedd Lloegr dywysogaeth Gwynedd. Er gwaethaf sawl gwrthryfel yn fuan wedyn, ymgorfforwyd Gwynedd mewn tywysogaeth frenhinol newydd o chwe sir a gynhwysai’r rhan fwyaf o ogledd a gorllewin Cymru. Arglwyddiaethau niferus y Mers, a’r rheiny gan mwyaf dan reolaeth arglwyddi o Loegr, oedd gweddill y wlad. Penllanw dwy ganrif o goncwest milwrol ac o wladychu yng Nghymru oedd y patrwm hwn mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth ac un a barhaodd am ddwy ganrif a hanner. Er i hyn gyflymu’r newidiadau economaidd, crefyddol a diwylliannol a oedd eisoes ar waith, fe gadwyd amryw byd o nodweddion cynharach cymdeithas y Cymry. At hynny, fe gryfhawyd y cysylltiadau oddi fewn i Brydain a’r cysylltiadau â gorllewin Ewrop, a daeth pobloedd Cymru a Lloegr yn nes at ei gilydd ond gan gydnabod y gwahaniaethau ethnig a chymdeithasol rhyngddynt.
Ni warantai hynny y byddai Cymru’n fwy heddychlon. Ymroes Edward I i godi cestyll yn unol â rhaglen na welwyd ei thebyg o’r blaen yn Ynysoedd Prydain. Ei hamcan oedd cryfhau gafael y Saeson ar Wynedd a’r wlad o’i hamgylch. Fe gychwynnodd y gwaith ym 1277 drwy godi cestyll fel Aberystwyth a gorffen drwy godi castell Biwmaris – castell a gwblhawyd ar ôl marwolaeth y brenin. Ym 1986, dynododd UNESCO bedwar castell mwyaf trawiadol Edward − Harlech, Caernarfon, Conwy a Biwmaris – yn Safle Treftadaeth Byd cyntaf Cymru. Daeth rhai o’r cestyll hyn, ac eraill fel Dinbych a Chasnewydd a godwyd neu a ailgodwyd yn arglwyddiaethau’r Mers, yn ganolfannau llywodraethu, a chanddynt gefnogaeth y bwrdeistrefi a sefydlwyd i elwa ar gyfoeth y wlad. Roedd eraill yn ganolfannau garsiwn a phan ddaeth yn adeg fwy heddychlon gadewid i’w cyflwr ddirywio. Yr oedd archesgob Caergaint wedi ymweld â Chymru ym 1284 i orfodi disgyblaeth yn yr Eglwys a’r gymdeithas, i adfer y mynachlogydd a’r eglwysi (fel eglwys gadeiriol Bangor) a gawsai eu difrodi, ac i hyrwyddo cymod rhwng y Cymry a’r mewnfudwyr. Fe weithiodd y polisïau hynny am ryw hyd.
Eto, ni fu’r cymathu cymdeithasol yn broses gwbl ddidrafferth. Dwysaodd ansicrwydd bywyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg wrth i’r tywydd ledled Cymru a Lloegr waethygu yn y 1310au gan ddod â phla heintus y fwren i daro gwartheg, a chreu newyn a chaledi economaidd, ac wrth i’r wlad ddioddef cyfres o blâu arswydus. Lledodd ‘y farwolaeth fawr’ (y Pla Du fel y’i gelwid yn ddiweddarach) yn gyflym o borthladdoedd glannau Hafren ym 1349 drwy diroedd isel y de, dyffryn Hafren a’r gororau – ac ailymddangos yn ystod y degawdau dilynol gan effeithio’n waeth ar faenorau, trefi a phentrefi nag ar ffermydd gwasgaredig yr uwchdiroedd. Amharodd y trychinebau hynny ar fywyd unigolion a theuluoedd, ar gymunedau gwlad a thref, ac ar arglwyddi a chlerigwyr. Crebachu wnaeth trefi fel Maesyfed a dechreuodd sawl pentref (fel Runston) edwino – a chael eu darganfod gan archaeolegwyr o’r awyr yn ein dyddiau ni.
Yr oedd ansefydlogrwydd cymdeithasol, mewn cyfnod pan wynebai gwrêng a bonedd fwy a mwy o galedi ac ansicrwydd, yn dwysáu’r posibilrwydd y codai helynt ymhlith y bobl. Ar ben hynny, yr oedd y cof am y goresgyniad hefyd yn fyw ymhlith rhai o gymunedau Cymru, yn enwedig ym mharthau’r gogledd. Y ffrwydrad mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndŵr (1400-10). Yr oedd cwynion personol gan Owain fel tirfeddiannwr blaenllaw o Gymro yn y gogledd-ddwyrain, ond bu ei wrthryfel mor ddifrifol, a phara mor hir, am iddo gyd-gyffwrdd â drwgdeimlad ehangach yn yr Eglwys a’r wlad a’r economi ac i hynny ysgogi Owain a’i gefnogwyr i ymosod ar drefi Seisnigedig y gogledd-ddwyrain (fel Rhuthun a’r Trallwng), mentro i’r de i ymosod yn ddinistriol iawn ar Aberhonddu, Caerdydd, Cydweli a Chaerfyrddin, a gosod cestyll y Grysmwnt a Choety dan warchae. Er i’w luoedd ennill cynifer o frwydrau ag y gwnaethant eu colli, anaml y gellir nodi lle yn union y bu’r brwydro (a hyd yn oed faes brwydr Pilleth ym 1405). Ac er bod gan Owain gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwladwriaeth annibynnol, ni lwyddwyd i ennyn teyrngarwch pawb yng Nghymru, a methiant fu’r gwrthryfel yn y pen draw.
Lle cyrchodd y byddinoedd, bu’r gwrthryfel yn ddinistriol: dioddefodd trefi a thai a melinau yn y cefngwlad, yn enwedig yn y canolbarth a’r de, gan amharu ar ddatblygiad cymdeithas heddychlon. Ond o’r 1430au ymlaen gwelwyd arwyddion adferiad wrth i lefelau’r boblogaeth sefydlogi, wrth i fywyd masnachol ailddechrau mewn mannau fel Hwlffordd a Chroesoswallt ac wrth i’r fasnach mewn gwlanen a gwartheg â threfi dros y ffin yn Lloegr ac yn nyffryn Hafren ffynnu. Gwelwyd ailwampio ar adeiladau trefi, ac fel y mae arolwg y Comisiwn Brenhinol o Sir Faesyfed wedi dangos, fe ailgodwyd neuaddau gwledig.
Aeth rhai o’r bobl a oroesodd holl helyntion y bedwaredd ganrif ar ddeg a gwrthryfel Glyndŵr ati i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi mewn cymdeithas ansefydlog, a hynny drwy brynu eiddo gwag neu symud ac ailgyfeirio’u teyrngarwch. Gosodwyd sylfeini ystadau teuluol gan werinwyr mentrus a daeth ffyniant yn sgil ffermio defaid neu drwy ddarparu crefftau a gwasanaethau manwerthu yn y trefi mawr. Daeth llafurwyr o Gymru o hyd i waith tymhorol ar ystadau Lloegr, yn union fel y cawsai gweithwyr a chrefftwyr adeiladu eu cyflogi o’r naill ochr a’r llall i’r ffin adeg codi’r cestyll a muriau’r trefi; wedi iddynt gwblhau eu gwaith, ymsefydlodd rhai o’r gweithwyr a’r crefftwyr hynny mewn trefi fel Harlech a Biwmaris a’r cyffiniau. Cymaint fu llwyddiant hynafiaid Cymreig Syr William ap Thomas (tudalen XXX) nes i’w teulu dyfu’n un o’r rhai mwyaf grymus yng Nghymru’r bymthegfed ganrif, gan adeiladu castell gwych yn Rhaglan (tudalen XXX). Saeson o ran eu tarddiad oedd teulu’r Bulkeleys ond gwnaethant hwythau yn fawr o’u cyfle i elwa o fasnach Biwmaris a chefn gwlad Môn.
Boed yn Gymry neu’n fewnfudwyr (a phrin oedd y newydd-ddyfodiaid na wnaethant ymbriodi â theuluoedd o Gymry yn ystod y bymthegfed ganrif), yr oedd angen teuluoedd bonheddig llwyddiannus i amddiffyn mynachlogydd, i noddi beirdd a’r artistiaid ac uwchlaw popeth i weinyddu tiriogaethau’r brenin ac arglwyddi’r Mers. Ymhen amser, daethant i dra-awdurdodi ar eu cymdeithas a manteisio ar y rhyfel cartref yn Lloegr (Rhyfeloedd y Rhosynnau). Prynodd rhai ohonynt dai tref (fel y gwnaeth teulu’r Kemeyses yng Nghasnewydd) neu godi maenordai mawr (fel Vaughaniaid Tretŵr), a threfnu eu claddu mewn beddrodau rhwysgfawr, yn union fel arglwyddi ac uchelwyr Lloegr (fel y tystia beddrodau teulu’r Herbertiaid ym mhriordy Abergefenni). Edmygai beirdd Cymru y bonheddwyr hynny, ond yr oedd diwylliant yr oes yn datblygu’n fwyfwy cosmopolitaidd ac amlieithog. Wedi canrifoedd o reolaeth gan estroniaid, daethai hunanlywodraeth gan deuluoedd o’r fath yn gyffredin ledled Cymru cyn dyfodiad y Tuduriaid a phrin, felly, oedd unrhyw wrthwynebiad pan unwyd Cymru a Lloegr.