Chwilio Cofnodion

Hafoty, Llansadwrn. Lluniad gan CBHC sy’n dangos ail-greu’r murlun yn Hafoty, Llansadwrn. Diddyddiad. (Image: GTJ00072 / NPRN: 15705) Gweithfeydd yr Hen Gastell, Llanelli. Braslun pen ac inc gan Dylan Roberts o wagen craen. 1957. (Image: DI2005_1213 / NPRN: 40509)

Archif

Safonau Catalogio

Mae catalog cofnodion Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru wedi’i ddatblygu i adlewyrchu’r ffaith fod ein daliadau’n unigryw o arbenigol. A hyd yn hyn mae wedi’i gynllunio’n bennaf i weithio ar y cyd â’n cronfa ddata ddigidol o safleoedd – cronfa ddata sy’n fynegai i gofnodion archifol cysylltiedig ar draws amrywiaeth o gasgliadau.

Er hynny, mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn ymwybodol o’r safonau proffesiynol a dderbyniwyd ar gyfer disgrifio archifau, ac yn enwedig y Disgrifiad Archifol Safonol Rhyngwladol Cyffredinol. Cydnabyddir y disgrifiad hwnnw’n rhyngwladol a dyma, bellach, y safon a arddelir helaethaf ymhlith archifdai Prydain. Mae’r Disgrifiad Archifol Safonol Rhyngwladol Cyffredinol yn cyflwyno model hierarchaidd ar gyfer catalogio archifau’n ddisgrifiadol. Hyd yn hyn, mae catalog archifau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru wedi cynnwys rhai elfennau hierarchaidd, ond heb fabwysiadu patrwm y Disgrifiad Archifol Safonol Rhyngwladol Cyffredinol. Bwriadwn drefnu ein catalog o gofnodion mewn ffordd gwbl hierarchaidd a chyflwyno ynddo lawer yn rhagor o elfennau disgrifiadol y Disgrifiad Archifol Safonol Rhyngwladol Cyffredinol. Mae gwaith cynllunio ar y gweill i uwchraddio ein catalog o archifau ar hyd y llinellau hynny. Y cyfnod targed ar gyfer y datblygiad hwn yw Ebrill 2007.

Gellir cael gwybod rhagor am y Disgrifiad Archifol Safonol Rhyngwladol Cyffredinol, gan gynnwys fersiwn o’r safon lawn y mae modd ei llwytho i lawr, oddi wrth y Cyngor Rhyngwladol ar Archifau drwy’r cyswllt ar y tudalen hwn.

Safonau Storio

Gan fod yr Archifau Cenedlaethol (TNA) yn cydnabod bod CHCC yn fan adnau swyddogol ar gyfer cofnodion cyhoeddus, rhaid ddarparu safon dderbyniol o storio archifol dan reolaeth. Cyn belled â phosibl, ceisiwn lynu wrth y Safon Brydeinig berthnasol, sef BS5454, safon y gellir ei phrynu o’r Sefydliad Safonau Prydeinig. Bydd y mwyafrif o’n storfeydd archifol yn defnyddio cyfleusterau sy’n rheoli’r offer awyru yn fanwl, gan gadw’r tymhered a’r lleithder cymharol yn y stordai o fewn bandiau cul o amgylch pwyntiau gosodedig, fel a ganlyn:

Pwynt gosodedig y tymheredd yw 15 gradd Canradd, o fewn band o +/- 2 radd.

Pwynt gosodedig lleithder cymharol yw 45% RH, o fewn band o +/- 5%.

Cyn belled â phosibl, byddwn ni’n defnyddio cyfryngau storio di-asid a chemegol-anadweithiol, ac yn peidio â gadael i eitemau archifol gwreiddiol adael yr adeilad.

I gael gwybod am y safonau ar gyfer catalogio storio cofnodion archifol digidol, ewch i Safonau: Digido.

Cysylltau allanol