Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Y Comisiwn sy’n cydlynu gwasanaeth CARN a byddwn ni hefyd yn cyfrannu iddo ein cronfa ddata, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Gan fod y wybodaeth ar lefel mynegai yn CARN yn cynnig cyswllt â’r cofnodion llawnach sydd ar gael ar gronfa ddata Coflein, gall defnyddwyr gael gwybodaeth ddisgrifiadol am safleoedd, eitemau archifol cysylltiedig a chynnwys digidedig, gan gynnwys lluniau a dogfennau.
Cadw
Cadw sy’n gyfrifol am warchod a diogelu’r amgylchedd hanesyddol. Mae’n cyfrannu mynegai i’w gronfa ddata o Henebion Cofrestredig. Y gobaith yw y bydd y datblygiadau yn y dyfodol yn fodd i gynnwys ei gronfeydd data o Adeiladau Rhestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig mewn porth i gofnodion am yr amgylchedd hanesyddol.
Amgueddfa Cymru
Mae Adran Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru yn cyfrannu ei chronfa ddata o wrthrychau i’r mynegai. Caiff y wybodaeth ei chynrychioli ar ffurf cyfres o leoliadau darganfyddion ledled Cymru, ynghyd â rhyw arwydd o’r nifer o wrthrychau a gafwyd o bob safle.
Y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy
Mae’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yn cadw cofnod o’r gwrthrychau y cafwyd hyd iddynt gan y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae CARN yn cynnwys mynegai i’r rhan o’r gronfa ddata honno sy’n ymwneud â Chymru.
Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru
Mae pob un o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn cadw cofnod o safleoedd a henebion eu tiriogaeth. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys sy’n cadw’r cofnod ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd sy’n ymdrin â’r gogledd-orllewin, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent sy’n ymwneud â’r de-ddwyrain ac Archaeoleg Cambria sy’n gyfrifol am y gorllewin.