Chwilio Cofnodion

Traphont Crymlyn, Caerffili. O gasgliadau'r CHCC: B. Howarth-Loomes, 1857. (Image: CD2005_628_017 / NPRN: 34959) Castle Bucket, Trecŵn. 1996. (Image: DI2006_0958 / NPRN: 305185) Nannerth-Ganol, Cwmteuddwr, Maesyfed. 2000. (Image: DI2005_0028 / NPRN: 81416)

Datblygiadau at y dyfodol

Ers cyflwyno CARN yn 2000 fe gafwyd sawl datblygiad, gan gynnwys ychwanegu data o’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, ehangu’r data a gaiff eu darparu o gronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol, a chynnwys gwybodaeth o gasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Mae nifer y cofnodion sydd ar gael, felly, wedi codi o 120,000 yn 2000 i bron 190,000 yn 2006.

Mae datblygiadau newydd o ran pyrth ar draws sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yn golygu bod modd cysylltu’n uniongyrchol â chronfeydd data ar-lein. Bellach, mae cofnodion o’r Comisiwn Brenhinol yn cysylltu’n uniongyrchol â’r disgrifiad helaethach, y cyfeiriadau archifol a’r cynnwys digidol sydd ar gael ar Coflein. Rhagwelir y bydd modd i’r holl bartneriaid wneud hyn wrth iddynt ddatblygu adnoddau ar-lein yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Dylid hefyd weld datblygu CARN yng nghyd-destun Porth Cymru Hanesyddol o ran gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.

Cysylltau allanol