Yr Athro Emeritws Ralph A. Griffiths OBE, BA, PhD, DLitt, FRHistS (Cadeirydd)
Hanes Proffesiynol:
Athro Hanes yr Oesoedd Canol, Prifysgol Cymru, Abertawe, 1982-2002; Cymrawd Ymchwil Emeritws Leverhulme, 2003-5.
Ar wahanol adegau, bu’n Athro Ymweld ym Mhrifysgol Dalhousie (Canada), Prifysgol Ohio a Choleg Haverford (UDA); yn Ddarlithydd Ford ym Mhrifysgol Rhydychen, yn Ddarlithydd Rhŷs yn yr Academi Brydeinig, yn Ddarlithydd Stenton ym Mhrifysgol Reading, yn Ddarlithydd Virgoe ym Mhrifysgol East Anglia, ac yn Ddarlithydd Bond yng Nghapel San Siôr, Windsor. Bu’n Aelod o’r Cyngor Ymgynghorol ar Gofnodion Cyhoeddus, yn Is-Lywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Hanes Sir Forgannwg, yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent, ac yn Llywydd Cymdeithas Cofnodion De Cymru
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Teyrnas a thiriogaethau Lloegr tua diwedd yr Oesoedd Canol ac, yn arbennig, Gymru, y Cymry a gwladwriaeth Lloegr o’r drydedd ganrif ar ddeg tan yr unfed ganrif ar bymtheg; y Lancastriaid; trefi a phobloedd yng Nghymru’r Oesoedd Canol; mudo gan bobloedd yn yr Ynysoedd Prydeinig.
Hanes Prydain yn archifau Ewrop yn y 19eg ganrif, yn enwedig y cysylltiad rhwng Lloegr a Fenis.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Doctor Llinos Smith (Is-Gadeirydd) BA, Ph.D.(Llundain), F.R.Hist.S.
Hanes Proffesiynol:
Cyn-Uwch-Ddarlithydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyd-olygydd Cyfrol II y Merioneth County History.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Mae hi wrthi’n cwblhau cyfrol ar hanes cymdeithasol Cymru tua diwedd yr Oesoedd Canol
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Yr Athro Antony David Carr MA, PhD, DAA
Hanes Proffesiynol:
Archifydd Cynorthwyol yn Archifdy Sir Essex, 1961-64.
Darlithydd Cynorthwyol, Darlithydd, Uwch-Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro Hanes Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor 1964-2002.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru tua diwedd yr Oesoedd Canol; mae wrthi’n gweithio ar lyfr ar uchelwyr y Gogledd tua diwedd yr Oesoedd Canol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr J.N.O. Harries BA, MEd. FCMI
Hanes Proffesiynol:
Profiad o Addysgu ar y lefel Uwchradd ac o fod yn Ddirprwy Brifathro, 1962/1974. Ymgynghorydd a Swyddog Addysg Dosbarth, Morgannwg Ganol, 1974/1986. Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol, Morgannwg Ganol, 1987/1994. Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, Cyngor Sir Morgannwg Ganol, 1994/1995. Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, 1995/2000.
Ymgynghorydd Arbenigol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar bolisi TGCh i Ysgolion, 2000
Cyfarwyddwr y ‘Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru’, 2001/2003
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr John Newman MA, FSA.
Hanes Proffesiynol:
Cyn-ddarllenydd yn hanes pensaernïaeth Prydain yn Sefydliad Celf Courtauld ym Mhrifysgol Llundain.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Agweddau ar bensaernïaeth ddomestig ac eglwysig yng Nghymru a Lloegr tua 1536-1914. Wrthi’n adolygu cyfrolau’r Pevsner Architectural Guides.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr John Lloyd CB, MA, YH
Hanes Proffesiynol:
Gwas Sifil yn Nhrysorlys Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gymreig a gwasanaeth seneddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn gyn-Ddirprwy Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig ac yn gyn-Glerc y Cynulliad Cenedlaethol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mrs Anne Eastham BA, Dip Arch.
Hanes Proffesiynol:
Mae’n arbenigo ar ddehongli olion adar a mamaliaid bach yn amgylcheddol. Wrthi’n ymchwilio ac addysgu ym maes archaeoleg. Mae’n ymwneud ar hyn o bryd â phrosiectau ymchwil archaeolegol yn Ffrainc, Sbaen ac Awstralia.
Ymhlith ei Diddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Patrymau adar a ffawna yn y cyfnod palaeolithig a’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach yng Nghymru a’r Pyreneau. Mae hi wrthi’n ymchwilio hefyd i ddulliau o fagu dofednod mewn unedau ar hyd yr oesoedd cyn dyfodiad gynnau. Cynhanes Sir Benfro a pharhad datblygiad cymunedol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr Henry Owen-John BA, MIFA, FSA.
Hanes Proffesiynol:
Graddiodd yn Birmingham ym 1976 a bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent tan 1991. Ymunodd ag English Heritage ym 1991 a daeth yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr. Yn 2004 daeth yn Gyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr gan fod yn gyfrifol am gyngor statudol English Heritage, dyrannu grantiau a meithrin partneriaethau.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Mae’n dal i ymddiddori mewn archaeoleg gynhanesyddol a Rhufeinig, ac yn amffitheatr Caer yn arbennig.
Canolbwynt ei ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw arbenigrwydd pensaernïol trefi diwydiannol gogledd-orllewin Lloegr a chyfraniad hynny i agenda’r llywodraeth ynghylch adnewyddu tai.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr Jonathan Hudson MBCS.
Hanes Proffesiynol:
Ymarferydd Technoleg Gwybodaeth ers deugain mlynedd. Ers 1993, mae’n rhedeg ei fusnes ymgyngoriaethol ei hun sy’n arbenigo ar ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i hwyluso cyflawni llu o aseiniadau, yn bennaf yn y sector cyhoeddus, gan sefydliadau mawr a bach ledled Prydain a chan lywodraethau tramor.
Cyn 1993 bu’n uwch-ymgynghorydd yn Deloitte and Touche a bu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Technoleg Gwybodaeth yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y sector preifat.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Defnyddio technoleg i gyfoethogi gwaith y Comisiwn a chynyddu mynediad y cyhoedd i’r wybodaeth sydd gan y Comisiwn.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk