Bydd y Comisiynwyr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn sef, fel rheol, yn ystod mis Mai neu Fehefin, mis Hydref a mis Chwefror. Yn draddodiadol, mae man cynnal cyfarfod mis Mai wedi amrywio o le i le er mwyn i’r Comisiynwyr gael cyfle i weld peth o’r gwaith y mae staff y Comisiwn wedi’i wneud yn ddiweddar.
Bydd Pwyllgorau’r Canghennau hefyd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn, a hynny cyn prif gyfarfod y Comisiwn, fel rheol. Yn Aberystwyth y cynhelir y mwyafrif o’r cyfarfodydd hynny. Bydd cyfarfodydd Pwyllgorau’r Canghennau yn gyfle i’r staff a’r Comisiynwyr drafod gwaith y canghennau’n fwy manwl.
Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi’r cofnodion o gyfarfodydd y Comisiynwyr ar y wefan, ac mae modd llwytho’r cofnodion diweddaraf i lawr o’r tudalen hwn ar ffurf dogfen PDF. Os hoffech gael copi printiedig o’r cofnodion hynny, cysylltwch â swyddfa’r Ysgrifennydd drwy’r tudalen Cysylltwch â Ni.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth ar 6 Chwefor 2009.