Amdanom Ni

Castell St. Donat's. 1991. (Image: DI2005_1018 / NPRN: 300312) Gwersyll Twyn-y-gaer. 22/7/1999. (Image: DI2005_0481 / NPRN: 300043)

Rheoli Gwybodaeth

Y Gangen Rheoli Gwybodaeth sy’n gyfrifol am reoli sylfaen wybodaeth y Comisiwn Brenhinol. Mae honno’n cynnwys:

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef yr archif cenedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Coflein, y gronfa ddata genedlaethol gysylltiedig a’r ‘rhestr’ o safleoedd a henebion hanesyddol.

System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) y Comisiwn Brenhinol.

Bydd y Gangen yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth mawr o bartneriaid i ddatblygu a hyrwyddo safonau yn y meysydd arbenigol hyn ac i sicrhau mynediad cynaladwy y cyhoedd i’r cofnodion. Er mai uned fach yw hi, mae hi ar flaen y gad o ran defnyddio’r technolegau sy’n datblygu ym maes data gofodol sy’n hygyrch i’r cyhoedd, ac mae’n gwerthfawrogi’r cymorth a’r hyblygrwydd y gall gweithio mewn partneriaeth eu sicrhau. Dyma rai o’r prif bartneriaethau:

SWISH (Y Gwasanaeth Gwybodaeth am Dreftadaeth a Rennir ar y We), sef menter arloesol gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban.

END (Y Gronfa Ddata Genedlaethol Estynedig), sy’n hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng consortiwm o sefydliadau, gan gynnwys Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Fe’i cydlynir gan y Comisiwn Brenhinol.

Yn dilyn datblygu Coflein drwy bartneriaeth SWISH, mae’r gangen wrthi’n datblygu porth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, sef Cymru Hanesyddol. Bydd y porth hwn, ochr yn ochr â Coflein, yn darparu cyfleuster ar-lein a fydd yn fodd i chwilio cofnodion Cadw o Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig a chasgliadau archaeolegol Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ddaearyddol.

Ymhlith cyfrifoldebau pwysig eraill y gangen mae:

Goruchwylio’r pedwar Cofnod rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol a gynhelir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, a’u cynorthwyo drwy roi grantiau iddynt.

Darparu gwybodaeth archaeolegol i’r Arolwg Ordnans at ddibenion mapio.

Cynnal a chadw a datblygu systemau ac isadeiledd Technoleg Gwybodaeth y Comisiwn Brenhinol.

I gyflawni’r cyfrifoldebau hynny, mae gan y gangen dîm o staff arbenigol hynod fedrus sy’n hyddysg mewn amrywiol ddisgyblaethau archaeolegol a disgyblaethau gwybodaeth. Trefnir y gangen yn dair adran, sef:

Rheoli Data – yr adran hon sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a Coflein, am oruchwylio’r Cofnodion rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol, am safonau data ac am dechnoleg gwybodaeth.

Rheoli’r Archif a’r Cofnodion – yr adran hon sy’n gyfrifol am archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, am ddigido, am safonau archifo (gan gynnwys safonau digidol), am reoli cofnodion ac am gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ar Ryddid Gwybodaeth a Diogelu Data.

Mapio Archaeolegol – yr adran hon sy’n gyfrifol am ddarparu arolygon archaeolegol i’r Arolwg Ordnans at ddibenion mapio, am fapio awyrluniau, am gynnal a chadw a datblygu’r System Gwybodaeth Ddaearyddol ac am brosiectau ymchwil cysylltiedig.

Mae’r Gangen wrthi’n datblygu porth Cymru Hanesyddol, yn mireinio hygyrchedd electronig yr archifau ac yn darparu thesawrws o’r amgylchedd hanesyddol drwy gyfrwng partneriaeth SWISH fel rhan o’r datblygu parhaus ar Coflein. Mae hi hefyd yn datblygu adnoddau am yr amgylchedd hanesyddol i ddyfeisiau symudol gyda chymorth grant gan CyMAL ac yn cyflawni prosiect peilot sy’n cysylltu cofnodion archaeolegol â gwaith mapio digidol yr Arolwg Ordnans.