Amdanom Ni

Corn Du Safle Claddu a Phen y Fan. Y dirwedd yn y gaeaf gan edrych tua’r dwyrain. Diddyddiad. (Image: CD2005_608_005 / NPRN: 307985) Y Groes, Llanbadarn Fawr. Manylyn o’r maen arysgrifedig yn Llanbadarn Fawr. 2004. (Image: DI2006_0810 / NPRN: 308695)

Cyhoeddiadau ac Estyn-allan

Prif ddiben y Gangen Cyhoeddiadau ac Estyn-Allan yw cyflwyno cynnwys y Cofnod Henebion Cenedlaethol ac ymchwiliadau parhaus y Comisiwn Brenhinol i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.

Mae i’r Gangen dair prif is-adran:

Graffigwaith a Dylunio Dyma’r is-adran sy’n gyfrifol am gynnyrch cyhoeddedig y Comisiwn Brenhinol, boed yn llyfrau, yn gynnyrch electronig, yn adroddiadau ymchwil, yn bosteri, yn daflenni neu’n gardiau post. Bydd y staff hefyd yn dylunio ac yn cynhyrchu deunyddiau ar gyfer arddangosfeydd.

Y Llyfrgell a Gwasanaethau Darllenwyr Bydd y staff yn ymdrin â phob ymholiad gan y cyhoedd a’r staff, a hwy sydd hefyd yn rheoli’r llyfrgell a’r ystafell chwilio. Mae gan y swyddogion unigol wybodaeth arbennig o feysydd fel archaeoleg filwrol a chapeli. Mae’r wybodaeth honno ar gael i staff y Comisiwn Brenhinol a hefyd, drwy ymgynghoriadau a chyflwyniadau, i gyrff allanol a’r cyhoedd.

Addysg. Y Swyddog Addysg sy’n gyfrifol am gyflwyno gwaith y Comisiwn Brenhinol i’r sector addysg drwy gysylltu ag ymgynghorwyr addysg a staff addysgu. Hi hefyd sy’n arwain y broses o ddatblygu parth addysg y wefan.

Y Swyddog Addysg sydd hefyd yn gyfrifol am weithredu a datblygu Polisi Iaith Gymraeg y Comisiwn Brenhinol.

Pennaeth y Gangen sy’n gyfrifol am gyflawni’r holl ddangosyddion perfformiad corfforaethol sydd wedi’u neilltuo i’r gangen. Bydd ef hefyd yn rhoi, i’r staff a’r cyhoedd, gyngor arbenigol ynghylch archaeoleg Rufeinig ac archaeoleg cestyll yr Oesoedd Canol, a theori ac ymarfer archaeolegol. Pennaeth y Gangen yw prif olygydd cyhoeddiadau’r Comisiwn Brenhinol.