Cryfder mawr y Comisiwn Brenhinol, a’r hyn sy’n ei wneud yn wahanol i bob sefydliad arall sy’n curadu archifau, yw bod ganddo gangen sy’n arolygu’n weithgar yn y maes. Mae’n fodd i’r Comisiwn lenwi bylchau amlwg yn yr archif cenedlaethol o henebion ac adeiladau, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Gall y Comisiwn ymateb, felly, i fygythiadau canfyddedig i feysydd archaeolegol neu adeiladau penodol ac i geisiadau i wneud gwaith cofnodi pryd bynnag y bydd modd gwneud hynny.
Mae’r Comisiwn Brenhinol mewn sefyllfa unigryw i gynnig gorolwg cenedlaethol o archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol Cymru. Bydd ei raglenni o arolygu yn y maes ac o dynnu ffotograffau yn esgor ar ganlyniadau deongliadol sydd ar gael i’r cyhoedd ar ffurf cyhoeddiadau printiedig ac ar wefan y Comisiwn Brenhinol, gan gydategu’r wybodaeth sydd ar gael ar y gronfa ddata ar-lein, Coflein. Bydd staff y gangen yn defnyddio’r cymhorthion arolygu a dehongli mwyaf addas sydd ar gael.
Mae’r meysydd arbenigol yn cynnwys tynnu awyrluniau, arolygu ar lawr gwlad dan arweiniad lloeren (GPS) a dyddio ar sail blwyddgylchau (dendrocronoleg).
Ymhlith y prosiectau cyfredol mae: Capeli Anghydffurfiol Cymru, Archaeoleg Uwchdiroedd Cymru, Camlas a Rheilffyrdd Abertawe (gyda Chymdeithas Camlas Abertawe) a Thai’r Gweithwyr Haearn yng Nghymru (gyda Jeremy Lowe).