Amdanom Ni

Tafarn y George and Dragon, Biwmares. Darlun lliw o furlun o’r ail ganrif ar bymtheg gan Dylan Roberts. (Image: CD2003_618_004 / NPRN: 254) Castell Caernarfon. Sleid o awyrlun lliw ar-osgo CBHC o Gastell Caernarfon, 1/5/1994. (Image: GTJ00136 / NPRN: 95318) Llowes Court, Glasbury. 1997. (Image: DI2005_0783 / NPRN: 81340)

Y Polisi Casglu

I gydymffurfio â’r Warant Frenhinol ac i hyrwyddo amcanion strategol y Comisiwn Brenhinol, nod y Cofnod Henebion Cenedlaethol yw casglu a chadw cofnod cynhwysfawr o henebion archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol Cymru, gan gynnwys ei dyfroedd tiriogaethol, o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw, a threfnu i’r cofnod hwnnw fod ar gael.

Gan fod archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru wedi’i ddynodi’n fan adneuo cymeradwy o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958, mae rhwymedigaeth arno i ofalu am y cofnodion sydd yn ei ofal, eu diogelu ac ychwanegu atynt, a threfnu i’w gasgliadau fod ar gael i’r cyhoedd. Rhaid i’r gofal am ei gofnodion gyrraedd safonau archifol proffesiynol a rhaid storio’r cofnodion o dan yr amodau gorau posibl.

Mae Polisi Casglu y Comisiwn Brenhinol yn nodi’r canllawiau y bydd y Comisiwn yn glynu wrthynt wrth gaffael deunydd ar gyfer archif y Cofnod Henebion Cenedlaethol a chynnal yr archif hwnnw.

Gallwch lwytho Polisi Casglu y Comisiwn Brenhinol i lawr o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohono, bydd croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gopi.

Dogfennau

Cysylltau allanol