Amdanom Ni

Eglwys Gadeiriol Tyddewi. 1983. (Image: DI2005_0788 / NPRN: 306) Iard longau Penfro, Llithrfeydd 8-11 yn y Dociau. Iard Longau’r Llynges. Diddyddiad. (Image: CD2005_603_007 / NPRN: 96116)

Y Cynllun Strategol

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi Cynllun Strategol a Gweithredol bob blwyddyn. Caiff y Cynllun Strategol, sy’n cyflwyno’r rhaglen y mae’n bwriadu ei gweithredu dros y tair blynedd dilynol, ei ddiwygio’n flynyddol, ac mae’r Cynllun Gweithredol blynyddol yn disgrifio swyddogaethau creiddiol y Comisiwn a’r ffyrdd y bydd y Comisiwn, drwyddynt, yn cyflawni ei nodau a’i amcanion yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Caiff prosiectau partneriaeth y Comisiwn Brenhinol eu rhestru yn y cynllun, yn ogystal â’i ddangosyddion perfformiad.

Mae’r Cynllun Strategol a Gweithredol cyfredol ar gael mewn print a gallwch ofyn am gopi ohono drwy gysylltu â ni yn ein cyfeiriad cyffredinol. Neu fe allwch chi lwytho copi i lawr ar ffurf PDF o’r tudalen hwn.

Dogfennau