Mae’r Comisiwn Brenhinol yn addo cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 mewn perthynas â chasglu, prosesu a datgelu gwybodaeth bersonol, fel y’i diffiniwyd gan y Ddeddf, ac wedi ymrwymo i ddilyn ei wyth egwyddor o arfer da. Felly, yn achos y data personol a ddelir gan y Comisiwn Brenhinol:
Cânt eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon.
Cânt eu prosesu at ddibenion cyfyngedig ac nid mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny.
Byddant yn ddigonol, yn berthnasol a heb fod yn ormodol.
Byddant yn gywir.
Ni chânt eu cadw’n hwy nag y bydd ei angen.
Cânt eu prosesu yn unol â hawliau pwnc y data.
Byddant yn ddiogel.
Ni chânt eu trosglwyddo i wledydd heb iddynt gael eu diogelu’n ddigonol
Mae gan y Comisiwn Brenhinol Bolisi ar Ddiogelu Data, a gallwch gael copi ohono ar ffurf dogfen PDF y gellir ei llwytho i lawr o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohoni, bydd croeso i chi gysylltu â ni o ofyn am gopi.