Amdanom Ni

Argae Penygarreg, Cynllun Dŵr Cwm Elan. Ffotograff du a gwyn o argae Penygarreg sy’n dangos mewnfa’r cwlfer, a dynnwyd adeg ei hadeiladu.  O CHCC: Gasgliadau'r Edward Hubbard, 1897. (Image: GTJ63732 / NPRN: 32534) Faen Hir Maen Llia. 1981. (Image: DI2006_0771 / NPRN: 84541)

Profiad Gwaith

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn croesawu ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud profiad gwaith yn ei swyddfeydd yn Aberystwyth, ac yn enwedig y rhai sy’n ymddiddori’n arbennig mewn archaeoleg, pensaernïaeth, ymchwil hanesyddol a rheoli archifau. Fel rheol, caiff y lleoliadau eu trefnu drwy ysgolion, athrofeydd addysg uwch, asiantaethau hyfforddi, sefydliadau proffesiynol neu Gyrfa Cymru, a gallant bara o wythnos i sawl mis. Fel rheol, caiff y myfyrwyr gyflwyniad i amrywiaeth o’r gwaith y mae’r Comisiwn yn ei wneud. Yna, bydd disgwyl iddynt gyfrannu i brosiect cyfredol sy’n cyd-fynd â’u diddordebau. Gall cyfle godi i wneud gwaith fel catalogio casgliadau archifol, ymdrin ag ymholiadau darllenwyr, gwneud gwaith arolygu maes, darlunio neu gyhoeddi. Bydd croeso hefyd i wirfoddolwyr. Gall lleoliadau hyfforddi noddedig fod ar gael o dro i dro. I gael gwybod rhagor, ffoniwch Sue Billingsley ar 01970 621228 neu e-bostiwch Sue Billingsley drwy’r tudalen Cysylltwch â Ni