Barn y mwyafrif o bobl, o glywed mai archaeolegydd ydw i, yw bod gen i swydd go gyffrous. Maen nhw braidd yn eiddigeddus o weld ’mod i’n ddigon ffodus i wneud rhywbeth rwyf wir yn ymddiddori ynddo ac, yn bwysicach na dim, yn mwynhau ei wneud.
Rwy’n gweithio ym myd archaeoleg ers 1996 ac, i mi, yr agweddau mwyaf pleserus ar fy ngwaith yw cael treulio llawer o amser yn yr awyr agored a chael cyfle i ymweld â chynifer o wahanol leoedd a gweithio ar gymaint o amrywiaeth o safleoedd archaeolegol.
Rhyw bymtheg oed oeddwn i pan ddechreuais ymddiddori mewn archaeoleg. Roedd hi’n ymddangos i mi ei bod hi’n swydd ddelfrydol am fy mod i mor hoff o’r awyr agored, a hanes oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol. Es ati, felly, i ymuno â’r gymdeithas archaeolegol leol, prynu ambell lyfr cyffredinol ar y pwnc ac ymweld â chynifer o safleoedd archaeolegol ag y gallwn i. Yna, ar ôl cael graddau digon da yn fy arholiadau Safon Uwch mewn Daearyddiaeth, Hanes a Saesneg, gwnes gais i astudio archaeoleg yn y brifysgol. Cefais le yn Newcastle. Tra oeddwn i yno, treuliais gymaint o amser ag y gallwn i yn gwneud gwaith gwirfoddol ar amryw o gloddiadau. O achos hynny, cefais waith fel cynorthwyydd maes gydag uned archaeolegol ar ôl i mi raddio. Daliais i weithio, yn bennaf fel cloddiwr, yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr am y tair blynedd nesaf tan i mi gael cynnig swydd barhaol fel Ymchwilydd Archaeolegol gydag English Heritage a mynd ati i weithio ar hyd a lled De-Ddwyrain Lloegr o’r swyddfa yng Nghaergrawnt. Caergrawnt oedd fy nghartref am y pum mlynedd nesaf tan i mi symud i Gymru ac ymuno â’r Comisiwn Brenhinol yn 2004.
Un o’r pethau gorau am archaeoleg yw bod cymaint o amrywiaeth o swyddi i’w cael, gan gynnwys swyddi cloddio, arolygu, tynnu ffotograffau, cadwraeth, ymchwilio i ddarganfyddion, darlunio, gwaith amgueddfa, rheoli cynllunio ac addysg, ac enwi dim ond dyrnaid. Ond un o’r pethau gwaethaf yw ei bod hi’n yrfa lle nad ydych chi’n debyg o ennill llawer iawn iawn o arian, a dyna pam y mae hi’n hollbwysig i chi fod â diddordeb go-iawn yn y pwnc.
Os hoffech chi ddilyn gyrfa ym myd archaeoleg, mae amryw o bethau y gallwch chi eu gwneud i ddarganfod ai dyma’r maes i chi. Gallech ymuno â’r Young Archaeologists Club, clwb i’r rhai 8-16 oed ym Mhrydain sy’n ymddiddori mewn archaeoleg. Efallai fod grŵp archaeolegol yn eich ardal chi y gallwch chi gymryd rhan yn ei weithgareddau, neu efallai y gallwch chi gymryd rhan mewn gwaith cloddio neu wneud gwaith gwirfoddol mewn amgueddfa. Mae gwefan Cyngor Archaeoleg Prydain yn cynnwys amryw o daflenni sy’n rhoi ffeithiau defnyddiol iawn ynghylch mentro i faes archaeoleg ac yn sôn am faterion fel cymwysterau yn 14+ ac addysg uwch.
Dilynwch y cysylltau ar y tudalen hwn i gael gwybod rhagor.