Amdanom Ni

Meini’r Dyffryn. Ngarn Ochr. 2002. (Image: DI2006_0597 / NPRN: 304440) Park Mill, Canolfan Dreftadaeth Gŵyr. Llun o ddriliwr llorweddol ar waith. O gasgliadau'r CHCC: Hawlfraint Rex Wailes, 1966. (Image: DI2005_0895 / NPRN: 24961)

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu llawer i waith y Comisiwn Brenhinol dros y blynyddoedd drwy i ymchwilwyr unigol gyfrannu eu darganfyddion i brosiectau’r Comisiwn Brenhinol – er enghraifft, drwy ein helpu i gofnodi miloedd o gapeli yng Nghymru.

Byddwn ni hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr i’n swyddfeydd yn Aberystwyth. Gallent fod yn dymuno magu profiad mewn meysydd gwaith penodol neu â diddordebau cyffredinol yr hoffent fynd ar eu trywydd ym myd archaeoleg, pensaernïaeth, ymchwil hanesyddol a rheoli archifau. Gall cyfle godi i wneud gwaith fel ateb ymholiadau darllenwyr, catalogio casgliadau archifol, arolygu maes, darlunio neu gyhoeddi. Gall lleoliadau hyfforddi noddedig a chyfleoedd phrofiad gwaith fod ar gael o dro i dro. Os hoffech chi wybod rhagor, ffoniwch Sue Billingsley ar 01970 621228 neu e-bostiwch Sue Billingsley drwy’n tudalen Cysylltwch â Ni.